Coleman: 'Ddim ar gyfnod prawf'
- Cyhoeddwyd
Mae'n debyg nad yw tynged rheolwr tîm pêl-droed Cymru Chris Coleman yn dibynnu ar ganlyniadau'r ddwy gêm nesaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Yn ddiweddar fe wnaeth prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru Jonathan Ford led awgrymu y gallai dyfodol Coleman fod yn ddibynnol ar y canlyniadau yn erbyn Macedonia a Gwlad Belg.
Ond ddydd Llun, mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales, dywedodd Mr Ford "na fyddwn yn beirniadu unrhyw un ar sail dwy gêm yn unig."
Ond ychwanegodd fod angen mwy o fuddugoliaethau ar y tîm cenedlaethol.
Fe fydd cytundeb presennol Coleman gyda'r Gymdeithas Bêl-droed yn dod i ben ddiwedd Tachwedd 2013.
Cafodd Coleman, 43, ei benodi ym mis Ionawr 2012 ar gytundeb dwy flynedd a hanner.
Mae o wedi dweud nad ydy o'n gwybod eto a fydd o'n arwyddo cytundeb newydd.
Fe fydd Cymru yn wynebu Macedonia nos Wener, a Gwlad Belg ar Hydref 15.
'Cymryd amser'
O dan reolaeth Coleman, dim ond tair gêm allan o 12 mae Cymru wedi ennill, ac maen nhw ar waelod eu grŵp yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.
Cafodd ei benodi yn rheolwr yn dilyn marwolaeth Gary Speed.
"Mae'n bwysig nad ydym yn anghofio'r amgylchiadau pan wnaeth o gymryd yr awenau," meddai Ford. "Fe wnaeth hi gymryd amser a byddai'n cymryd amser i unrhyw reolwr pa bynnag mor fedrus ydynt."
Dywedodd Ford ei fod yn cydnabod fod Coleman yn wynebu gemau anodd yn erbyn Macedonia a Gwlad Belg, yn enwedig o ystyried anafiadau a gwaharddiadau.
"Oherwydd yr anafiadau wrth gwrs mai hi yn mynd i fod yn anodd iawn," meddai.
"Does neb yn mynd i farnu unrhyw un ar un gêm ac yn sicr ddim yn yr amgylchiadau hyn ...pe bai o'n teimlo ei fod ar gyfnod prawf, dwi'n meddwl y byddai'n rhoi'r gorau iddi yn syth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd11 Medi 2013
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012