Rhaglen Iola Wyn yn dod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cadarnhau y bydd Iola Wyn yn rhoi'r gorau i ddarlledu ei rhaglen foreol ar Radio Cymru.
Ond mae'r gorfforaeth yn dweud y bydd yr orsaf yn parhau i ddarlledu o'r gorllewin.
Yn dilyn ymgyrch 'Sgwrs Radio Cymru', mae'r orsaf yn bwriadu cyhoeddi cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ystod yr wythnos nesa'.
Dechreuodd Iola Wyn ddarlledu ei rhaglen ddyddiol o'r stiwdio yng Nghaerfyrddin fis Hydref 2012.
Dywedodd ar wefan Twitter ddydd Llun:
"Wedi penderfynu rhoi'r gorau i gyflwyno Rhaglen Iola Wyn ar Radio Cymru. Diolch enfawr i'r criw cynhyrchu a phob llwyddiant i'r rhaglen.
"I wrandawyr y rhaglen, diolch o galon am yr holl gefnogaeth."
'Dymuno'n dda'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru:
"Ry'n ni'n diolch i Iola Wyn am ei chyfraniad i Radio Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn dymuno'n dda iddi yn y dyfodol.
"Yn dilyn ei chyhoeddiad ry'n ni deall na fydd Iola'n dychwelyd i gyflwyno Rhaglen Iola Wyn, ond bydd Radio Cymru yn parhau i ddarlledu o'r gorllewin.
"Ry'n ni wedi dweud ar hyd yr amser y byddwn yn cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer Radio Cymru yn yr hydref.
"Ers y gwanwyn mae BBC Cymru Wales wedi bod yn casglu'r holl ymatebion i Sgwrs Radio Cymru ac yn eu hystyried ochr yn ochr â'r ymchwil radio mwyaf erioed yng Nghymru.
"Y nod yw amlinellu'r strategaeth olygyddol am natur yr orsaf a chadarnhau unrhyw newidiadau i'r amserlen yn fuan iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2013
- Cyhoeddwyd22 Mai 2013
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013