BMA: 'Diffyg gwelyau' yn broblem

  • Cyhoeddwyd
Darren Millar
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cadeirydd y pwyllgor Darren Millar yn holi'r BMA ymhellach yn ystod y cyfarfod

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn credu bod diffyg gwelyau yn cyfrannu'n sylweddol i'r pwysau sy'n bodoli o fewn adrannau brys ysbytai.

Roedd cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu y BMA yng Nghymru a'i ddirprwy yn ymddangos o flaen Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn hwyrach i drafod gofal heb ei drefnu.

Yn eu tystiolaeth ysgrifenedig gafodd ei gyflwyno o flaen llaw mae'r BMA hefyd yn dweud eu bod nhw'n credu bod y lefel o arian sy'n cael ei roi tuag at ofal tu allan i oriau yn "gwbl annigonol".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n croesawu barn y BMA.

Gofal heb ei drefnu

Mae'r BMA yn gymdeithas sy'n cynrychioli rhyw 7,000 o feddygon yng Nghymru ymhob maes o fewn y byd meddygol.

Ar hyn o bryd mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal ymchwiliad i ofal heb ei drefnu yng Nghymru ac mae'r BMA wedi cael gwahoddiad i gyfrannu.

Rhoddodd eu cadeirydd Dr Charlotte Jones a'i dirprwy Dr David Bailey dystiolaeth mewn sesiwn i'r Cynulliad fore Mawrth.

Dywed eu tystiolaeth: "Yn ein barn ni un o'r pethau sy'n cyfrannu fwyaf at y pwysau sy'n bodoli o fewn adrannau brys ein hysbytai yw'r oedi yn yr amser mae'n cymryd i dderbyn cleifion sydd angen triniaeth i'r ysbyty.

"Un o'r ffactorau sy'n achosi'r oedi hyn yw'r ffaith bod nifer y gwelyau o fewn y GIG yng Nghymru wedi gostwng 21% rhwng 2000/01 a 2012/13."

Yn ddiweddar fe ddaeth i'r amlwg bod nifer y gwelyau wedi gostwng o 14,265 i 11,495 yn y ddegawd ddiwethaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ymateb fod hyn yn "briodol" gan fod y pwyslais bellach a'r drin pobl yn eu cymunedau.

'Cwbl annigonol'

Un o'r problemau mawr eraill sy'n wynebu gofal brys yn ôl y BMA yw'r ffaith bod lefel yr arian sy'n cael ei wario ar ofal sylfaenol tu allan i oriau yn "gwbl annigonol".

Mae'r BMA yn dweud: "Yng ngogledd Cymru, er enghraifft, rydym yn deall mai £12 y pen sy'n cael ei wario bob blwyddyn ar y gwasanaeth hwn.

"Yn wir, rydym yn credu bod angen meddwl os yw'r penderfyniadau buddsoddi cywir wedi cael eu gwneud ar draws y bwrdd er mwyn gwneud yn siŵr fod darpariaeth yn cyd-fynd gyda galw o fewn y system."

Yn ogystal mae'r BMA yn dweud bod oedi mewn asesu cleifion sy'n cyrraedd adrannau brys hefyd yn achosi problemau.

Maen nhw'n nodi'r ffaith bod y pwysau sy'n cael ei achosi gan hynny wedi cael ei leddfu yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli lle mae meddygon teulu wedi bod yn helpu gyda'r gwaith.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn gwneud cynnydd cyflym yn cryfhau gofal heb ei drefnu.

"Mae'r ffocws ar welliannau o fewn gofal sylfaenol, gofal yn y gymuned, ein hysbytai a'n partneriaeth gyda'r gwasanaethau cymdeithasol.

"Rydym yn cael trafodaethau rheolaidd gyda'r BMA ac yn croesawu eu mewnbwn ar ein gwaith."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol