Galw am adolygiad o ysbytai Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi dweud fod angen adolygiad o holl ysbytai Cymru oherwydd yr hyn maen nhw'n ei alw yn "bryder cyhoeddus" am safon gofal yn y Gwasanaeth Iechyd.
Dywed y ddogfen, y mae BBC Cymru wedi ei gweld, fod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn poeni am berfformiad gwael o fewn y gwasanaeth a bod angen gwell trefn o gynnal archwiliadau.
Mae'r ddogfen hefyd yn dweud fod y cyhoedd angen "sicrwydd ar frys ynglŷn â safonau gofal."
Ac mae'n cyfeirio at gynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy'n gorfod aros yn rhy hir am driniaeth yn yr ysbyty.
'Canran uwch'
Mae'n dweud fod angen cryfhau'r trefniadau ar gyfer cynnal archwiliadau ac yn galw am i gyrff proffesiynol fel y colegau brenhinol fod â rhan fwy canolog yn y broses.
Dywed Darren Millar AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, ei fod yn croesawu galwad CBLl.
"Dyw e ddim yn iawn fod ysbytai Cymru â chanran uwch o farwolaethau na gweddill y Deyrnas Unedig.
"Mae angen i ni ddeall y rhesymau am hyn a dwi'n falch fod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn galw am wella'r drefn."
Y coleg yw'r sefydliad diweddara i alw am fwy o ganolbwyntio ar safonau gofal.
Mae AS Cwm Cynon Ann Clwyd wedi galw am ymchwiliad i safon gofal yng Nghymru.
Yn ddiweddar, arweiniodd arolwg o drefn cwyno y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
'Adfer hyder'
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi dweud bod angen adolygiad llwyr o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, un fyddai'n debyg i'r ymchwiliad yn Lloegr gan Syr Bruce Keogh.
Roedd yn canolbwyntio ar ymddiriedolaethau lle oedd y canrannau uchaf o farwolaethau.
Dywed Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol: "Rhaid sicrhau bod y gweithdrefnau priodol mewn lle fel bod modd tynnu sylw o flaen llaw at argyfwng posibl fel yr un yn Sir Stafford.
"Dylai'r arolygiaeth fod ar yr un sail statudol ag Estyn, yn adrodd yn uniongyrchol i'r Gweinidog Iechyd ac o fewn hyd braich i Lywodraeth Cymru."
'Annibynnol'
Dywed llefarydd Plaid Cymru Elin Jones: "Mae angen arolygiaeth annibynnol wedi ei hariannu'n ddigonol ...
"Nid yw'n dderbyniol wedi Adroddiad Francis fod yr arolygiaeth yn adran fewnol yn Llywodraeth Cymru."
Dyw Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ddim yn galw am adolygiad llwyr o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ond maen nhw'n dweud y dylai "gwleidyddion, rheolwyr y Gwasanaeth iechyd a staff clinigol wneud mwy i adfer hyder y cyhoedd".
Mae'r coleg yn dweud y dylid cryfhau'r drefn archwilio bresennol sydd ar hyn o bryd yn cael ei harwain gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Yn y ddogfen sydd wedi ei pharatoi ar gyfer aelodau'r Cynulliad dywed y coleg: "Mae angen cyflwyno newidiadau i Arolyigaeth Gofal Iechyd Cymru yn gyflym oherwydd mae angen rhoi sicrwydd i'r cyhoedd am safon gofal yn ysbytai Cymru."
57 o bobl
Mae'r ddogfen yn cyfeirio at bryderon ynglŷn â nifer y bobl sy'n marw tra'n aros am driniaeth ar y galon.
Bu farw 12 o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro mewn cyfnod o 15 mis tra'n aros am y driniaeth.
Dywed Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg fod 57 o bobl wedi marw mewn cyfnod o bum mlynedd tra'n aros am lawdriniaeth y galon yn Ysbyty Treforys.
Yn y cyfamser, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cafodd yr holl faterion eu trafod yn llawn yn y Cynulliad ar Dachwedd 6 pan fethodd galwad am ymchwiliad i holl ysbytai Cymru.
"Yn ein barn ni, nid oes angen adolygiad.
"Ni ddylen ni anghofio fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru'n delio â chleifion 20 miliwn o weithiau bob blwyddyn a bod 92% yn fodlon ar y gofal.
"Mae'n bwysig dysgu gwersi pan yw rhywbeth yn mynd o'i le ac mae'n bwysig bod systemau clir mewn lle i fonitro ansawdd a chymryd camau i ymyrryd pan fo safonau'n llai na'r disgwyl.
Dyblu
"Ac mae'r arolygiaeth yn rhan bwysig o'r systemau ..."
Cyn hir mae disgwyl i adroddiad gael ei gyhoeddi ynglŷn â nifer y marwolaethau i gleifion yn y de tra'u bod ar restrau aros am driniaeth y galon.
Mae'r ystadegau diweddara yn dangos fod nifer y bobl sy'n gorfod aros mwy na 36 wythnos am driniaeth yn ysbytai Cymru wedi dyblu mewn cyfnod o chwe mis.
Yn ôl targedau Llywodraeth Cymru, ni ddylai unrhyw un orfod aros mwy na 36 wythnos a dylai 95% o gleifion gael triniaeth o fewn 26 wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2013