Ysbyty Athrofaol: 'Stafford Cymru' yn ôl Ann Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Ann Clwyd ASFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr AS mai dim ond trwy gael ymchwiliad cyhoeddus y daw'r cyhoedd i wybod y gwir

Mae Aelod Seneddol Cwm Cynon wedi dweud ei bod yn credu mai 'Stafford Cymru' yw Ysbyty Athrofaol Cymru a bod angen ymchwiliad cyhoeddus.

Wrth siarad ar y Post Cyntaf fore Gwener dywedodd Ann Clwyd, sydd wedi bod yn feirniadol o'r ffordd y cafodd ei diweddar ŵr ei drin yn yr ysbyty, bod gan y cyhoedd hawl i wybod y gwir.

Ymchwiliad

Daw ei sylwadau yn dilyn adroddiad gan lawfeddygon yr ysbyty Athrofaol sydd yn awgrymu bod yna adrannau 'peryglus yno' a bod cleifion yn 'marw'n rheolaidd' wrth aros am lawdriniaethau.

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd adroddiad terfynol ymchwiliad cyhoeddus i "fethiannau ofnadwy" yn Ysbyty Stafford yng nghanolbarth Lloegr.

Dywedodd Ann Clwyd: "Dw i'n meddwl mai dyma Stafford Cymru. Ysbyty Stafford, dach chi yn cofio'r holl helynt? Ymchwiliad Francis i mewn i'r digwyddiadau fanna. Mae isio ymchwiliad tebyg yng Nghymru. Mae isio i rywun o du allan i Gymru i edrych ar y sefyllfa."

Yn ôl yr adroddiad mae dros 2,000 o lawdriniaethau wedi eu gohirio mewn cyfnod o dri mis am fod yr adrannau gofal yn methu ymdopi â nifer y cleifion oedd angen triniaeth.

Nododd y llawfeddygon hefyd fod cyflwr unigolion yn gwaethygu a phobl weithiau hyd yn oed yn marw wrth ddisgwyl i gael llawdriniaeth.

Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud bod y problemau yn "annerbyniol", ac wedi ymddiheuro i gleifion.

Cwestiynau

Dywed Ann Clwyd, sydd wedi ei phenodi i edrych ar sut y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn delio gyda chwynion, bod yna lot o gwestiynau sydd angen eu hateb:

"Mae angen ymchwiliad erbyn hyn. Mae angen hefyd i'r bobl sydd yn gofalu am yr ysbyty, y cadeirydd a hefyd y prif swyddog edrych yn fanwl iawn ar eu sefyllfa nhw. Y nhw sydd yn gyfrifol a nhw sydd ddim wedi dweud wrth y cyhoedd.

"Mae gan y cyhoedd hawl i wybod beth sydd yn digwydd, beth sydd yn beryg, beth sydd ddim yn beryg. Ddylen ni gael y gwir a'r unig ffordd dw i'n credu cawn ni'r gwir ydy trwy gael ymchwiliad cyhoeddus fel ymchwiliad Francis ar Stafford."

Mae Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud bod y problemau oedd yn wynebu'r ysbyty wedi bod yn 'annerbyniol' a bod llawer o waith da wedi digwydd yn barod er mwyn gwella'r sefyllfa.

Gweithredu

Ddydd Iau fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig hefyd alw am ymchwiliad, "tebyg i un Keogh", i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru - galwad maen nhw wedi ei ailadrodd.

Yn ôl y Ceidwadwyr mae angen ymchwiliad yn dilyn wythnos a welodd yr adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn cael ei gyhoeddi ddiwrnod ar ôl honiadau fod claf oedrannus wedi cael ei hesgeuluso mewn dau ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn nodi bod adroddiad diweddar i'r ffordd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn cael ei redeg yn "hynod feirniadol".

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies: "Mae hyn nawr yn hatrig o ffaeleddau o fewn tri bwrdd iechyd mwyaf Cymru.

"Faint mwy o gleifion fydd raid 'marw'n gyson' cyn bod Llafur Carwyn Jones yn gweithredu gan gyflwyno ymchwiliad tebyg i un Keogh?

"Dylai gofal sydd ddim ddigon da mewn ond un ardal fod yn ddigon i orfodi ystyriaeth o hyn. Mae graddfa eang y ffeithiau cythryblus sydd wedi cael eu cyhoeddi yn brawf fod rhaid gweithredu.

"Mae darganfyddiadau ofnadwy llawfeddygon yn edrych ar ysbyty fwyaf Cymru y tu hwnt i bryderus ac mae'r tebygolrwydd i sgandal diweddar Mid Staffordshire yn peri gofid."