Sgandal fel Stafford?: 'Dim sicrwydd pendant,' medd pennaeth

  • Cyhoeddwyd
Stafford Hospital sign
Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth cannoedd o gleifion farw yn dilyn y methiannau yn ysbyty Stafford

All corff gwarchod ddim rhoi "sicrwydd pendant" fod sgandal fel un Ysbyty Stafford ddim yn digwydd yng Nghymru.

Dyna ddywedodd Arolygiaeth Gofal Iechyd wrth aelodau un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Dywedodd yr arolygiaeth fod problemau staffio yn golygu nad oedden nhw'n gallu gwneud digon o waith archwilio mewn ysbytai.

Roedd methiannau yn Ysbyty Stafford yn golygu bod cannoedd o gleifion wedi marw ac roedd manylion yn dangos bod rhwng 400 a 1,200 yn fwy o farwolaethau wedi eu cofnodi na'r disgwyl.

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yn craffu ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd.

Yn ystod sesiwn y bore mi ofynnodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, a oedd 'na sgandal fel un Ysbyty Stafford yng Nghymru.

'Pryderon'

Dywedodd Kate Chamberlain, prif weithredwr yr arolygiaeth: "Dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod gyda ni ddigon o bobl i wneud y gwaith archwilio ac felly ni allaf roi sicrwydd pendant i chi.

"... mae yna drafodaethau wedi bod a fydden ni'n medru archwilio yn iawn gyda thîm llawn o weithwyr.

"Ond ar ôl gwneud ychydig o waith dadansoddi mae gen i bryderon a fyddwn ni'n medru gwneud hynny."

Dywedodd fod y corff gwarchod yn ceisio denu mwy o staff gan mai 58 sydd yno.

Roedd ymateb i bryderon pan oedden nhw'n codi, meddai, yn effeithio ar rannau eraill o'r gwaith.

'Adolygiad'

Ond dywedodd ei bod yn hyderus eu bod nhw'n ymateb yn gyflym.

"Dwi'n meddwl mai enghraifft dda iawn o hynny oedd y ffaith ein bod ni wedi cynnal adolygiad o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar ôl gweld beth yr oedden ni wedi ei ddarganfod.

"Ond ... dwi'n gwybod bod y tîm aeth i Betsi er mwyn medru gwneud y gwaith wedi gohirio tasgiau eraill."

Mi ledodd Clostridium difficile (C. Diff) yn Ysbyty Glan Clwyd rhwng Ionawr a Mai a bu farw 30 o bobl.

Ar ôl adroddiadau beirniadol am sut y deliodd y bwrdd iechyd â'r salwch mi benderfynodd y cadeirydd a'r is-gadeirydd roi'r gorau i'w gwaith.

Mi ddywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ei fod yn gwybod am y problemau staffio sydd yn wynebu'r corff.

Mae o hefyd yn cydnabod bod faint o arian mae'r corff yn derbyn yn fater pwysig.

"Mae'r Gweinidog Llywodraeth leol, sydd efo cyfrifoldeb am gyllideb AGI wedi bod mewn cysylltiad gyda fi am y gyllideb ac os ydy'r arian yn caniatau iddyn nhw wneud y tasgau da ni yn dweud wrthyn nhw i wneud. Rydyn ni yn parhau i fod mewn trafodaethau ynglyn â hynny. Mae e yn fater dw i'n cydnabod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol