Tair yn euog o atal claddu

  • Cyhoeddwyd
Achos claddu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hazel Adie (chwith) wedi cael ei rhyddhau ond plediodd ei mam, Boqer-Ore Adie (dde), yn euog

Mae tair dynes wedi pledio'n euog i rwystro claddedigaeth gyfreithlon a pharchus dyn o Geredigion.

Roedd Geoffrey Sturdey o Dregaron yn 60 oed pan aeth ar goll ym mis Hydref 2008.

Plediodd ei weddw, Rebekah Sturdey, 56, Boqer-Ore Adie, 43, a Karmel Adie, 25 yn euog i'r drosedd.

Gwnaeth Sturdey a Boqer-Ore Adie hefyd bledio'n euog i hawlio gwerth £77,318 o fudd-daliadau Mr Sturdey.

Plediodd merch Boqer-Ore Adie, Hazel Adie, 20, yn ddieuog i gyhuddiad o rwystro claddedigaeth gyfreithlon a pharchus, ac fe gafodd ei rhyddhau.

Cafodd corff Mr Sturdey ei ddarganfod yn dilyn ymchwiliad gan yr Adran Waith a Phensiynau a casglodd archwiliad post mortem iddo farw o achosion naturiol.

Bydd Rebekah Sturdey, Boqer-Ore Adie a Karmel Adie yn cael eu dedfrydu ar Ragfyr 12.