Hwb arall i atomfa newydd yn Wylfa

  • Cyhoeddwyd
Wylfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r Trysorlys arwyddo cytundeb gyda Hitachi a Horizon

Mae Llywodraeth San Steffan wedi arwyddo cytundeb gyda Hitachi a Horizon er mwyn rhoi gwarant ariannol gyda'r bwriad o ddatblygu atomfa newydd yn Wylfa ar Ynys Môn.

Mae'r datblygiad, yn ôl y llywodraeth, yn arwydd o'u hymrwymiad clir i ynni niwclear newydd.

Yn ogystal â'r ddarpariaeth niwclear, mae 'na gynlluniau i fuddsoddi arian cyhoeddus ac arian preifat mewn trafnidiaeth, cynlluniau atal llifogydd, cynlluniau ynni a delio gyda gwastraff hyd y flwyddyn 2030.

Yn ôl llefarydd ar ran y Trysorlys, mae'n dal yn ddyddiau cynnar o ran prosiect atomfa yn Wylfa ond mae'r datganiad ddydd Mercher yn cael ei "weld fel cam yn y cyfeiriad cywir."

Ychwanegodd: "Dyw gwarant ddim yn daliad uniongyrchol i'r prosiect ond mae o'n ffordd o sicrhau bod prosiectau mawr yn elwa o fantolen y llywodraeth, mae'r llywodraeth yn fodlon digolledu'r cwmnïau. Mae hyn yn arwydd o hyder yn y prosiect."

Ymateb

Wedi'r cyhoeddiad ddydd Mercher, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS:

"Mae cyhoeddi'r Cynllun Isadeiledd Cenedlaethol yn dangos fod y Llywodraeth yma yn darparu i Gymru - yn gwella rhwydwaith isadeiledd y wlad ac yn rhoi sicrwydd i gwmnïau sy'n bwriadu buddsoddi yng Nghymru.

"Yn dilyn ein cyhoeddiad am Hinkley Point ym mis Hydref, mae'r cyhoeddiad heddiw'n dangos ein hymrwymiad parhaol a chadarn i ynni niwclear newydd yn y DU, ac i gefnogi buddsoddiad Hitachi yn y Wylfa newydd.

"Bydd eu buddsoddiad yn dod â budd sylweddol i economi Cymru, yn enwedig yn Sir Fôn, trwy gyfleoedd i ddarparu'r gadwyn gyflenwi a swyddi o ansawdd uchel sydd eu gwir angen."

Cafodd y cyhoeddiad groeso gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, a dywedodd yr AC dros ogledd Cymru, Aled Roberts:

"Mae'n newyddion gwych i ogledd Cymru ac mae'n dod yn dilyn yr ymrwymiad i adeiladu carchar mawr a datblygu'r cysylltiad band eang cyflym i helpu busnesau yng ngogledd Cymru.

"Mae'r llywodraeth glymblaid wedi ymrwymo i ddod â buddsoddiad i'r DU ac rwyf wrth fy modd fod Wylfa B yn amlwg yn rhan fawr o'u cynlluniau.

"Mae miloedd o swyddi ar yr ynys yn ddibynnol ar ddyfodol y safle ac rwy'n croesawu fod y llywodraeth glymblaid yn cydnabod pwysigrwydd hyn."

Cytundebau eraill

Ddydd Mercher hefyd cyhoeddodd Pŵer Niwclear Horizon eu bod nhw wedi arwyddo cytundebau strategol gyda'r cyflenwyr fydd yn darparu gwasanaethau dylunio technegol a pheirianneg arbenigol ar gyfer prosiect Wylfa Newydd.

Bydd y prif gyflenwyr llwyddiannus - AMEC, Atkins a Cavendish Nuclear - yn awr yn cydweithio â'u cadwyni cyflenwi perthnasol a Horizon dros y tair blynedd nesaf.

Dywed Horizon y byddan nhw hefyd yn gweithio gyda'r cwmnïau i greu cyfleoedd i eraill yn y gadwyn gyflenwi ac y bydd y contractwyr yn cydweithio â busnesau lleol lle bo hynny'n briodol.

Dau adweithydd

Yn y misoedd nesa' mae disgwyl trafodaethau ynglŷn â'r pris fydd yn cael ei dalu am ynni sy'n cael ei gynhyrchu yn y Wylfa.

Mae hynny'n golygu fod prosiect Wylfa ar ei hôl hi o gymharu â Hinkley.

Yno yn ddiweddar fe wnaeth y llywodraeth gytuno ar bris yr oeddynt yn fodlon talu am ynni yn y dyfodol.

Fis diwethaf dywedodd cwmni Pŵer Niwclear Horizon mai dau yn lle tri adweithydd dŵr berwedig maent yn bwriadu eu hadeiladu yn Y Wylfa.

Ffurfiwyd Pŵer Niwclear Horizon yn 2009 i ddatblygu gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn y DU.

Ym mis Tachwedd 2012, prynodd Hitachi Ltd o Japan y cwmni oddi wrth y cyn cydberchnogion RWE npower ac E.ON UK.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol