Atomfa newydd: Cymru'n elwa?

  • Cyhoeddwyd
Artist's image of the Hinkley Point C plantFfynhonnell y llun, EDF Energy
Disgrifiad o’r llun,

A fydd yr atomfa yng Ngwlad yr Haf yn rhoi hwb i fusnesau yn ne Cymru?

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi caniatâd i godi atomfa niwclear newydd yn Hinkley Point, yng Ngwlad yr Haf.

Hon fydd yr atomfa gyntaf i'w chodi ym Mhrydain ers cenhedlaeth.

Cafodd y newyddion ei groesawu gan CBI Cymru ac Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Owain Davies, o CBI Cymru, y bydd yna gyfle i fusnesau yng Nghymru elwa o'r buddsoddiad.

Mae Hinkely Point rhyw awr o daith o Gasnewydd.

"Bydd yna rai pobl yn fodlon teithio awr er mwyn cael swyddi, a bydd hwn yn gyfle mawr i fusnesau yng Nghymru.

"Hefyd mae'n gam ymlaen i'r diwydiant niwclear ac yn rhoi gobaith fod cyhoeddiad am Wylfa B gam yn nes," meddai Mr Davies.

Swyddi parhaol

Consortiwm dan arweinyddiaeth EDF o Ffrainc fydd yn gyfrifol am godi Hinkley Point.

Bydd y safle sy'n costio £16 biliwn.

Yr amcangyfri' yw y bydd hyd at 25,000 o swyddi adeiladu'n cael eu creu a 900 o swyddi parhaol.

Mae Hinkley point yn un o wyth o safleoedd sy'n cael eu hystyried ar gyfer codi atomfeydd newydd ym Mhrydain.

Ym Mehefin 2011 cadarnhawyd fod Wylfa ar Ynys Môn yn un o'r wyth.

Hwb

Mae Gweinidogion San Steffan ac EDF wedi bod yn cynnal trafodaethau ynglŷn â'r isafswm fydd yn cael ei dalu am drydan sy'n cael ei gynhyrchu yn Hinkley.

Mae'n debyg fod y ddwy ochr wedi cytuno ar bris o £92.50 am bob megawatt.

Mae hynny tua dwbl yr hyn sy'n cael ei dalu am gynhyrchu trydan ar hyn o bryd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones fod y newyddion am Hinkley Point yn gam positif i'r Wylfa.

"Mae cyhoeddiad heddiw am Hinkley Point yn rhoi hwb i Gymru.

"Bydd y newyddion fod cytundeb wedi ei wneud am osod pris yn newyddion da i Hitachi a datblygiad Wylfa.

"Mae'n fuddsoddiad mewn cynhyrchu ynni carbon isel ac yn lleihau'r risg sy'n wynebu cynhyrchwyr drwy roi sicrwydd ynglŷn â chodi arian."

Dywed beirniaid y diwydiant niwclear y bydd y cytundeb yn golygu y bydd prisiau ynni yn codi a bod cytuno ar bris isafswm gyfystyr â rhoi sybsidi i'r diwydiant.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol