Cymdeithas yr Iaith a Carl Sargeant yn trafod mesur cynllunio
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwrdd â Llywodraeth Cymru i drafod effeithiau posib mesur cynllunio newydd ar yr iaith.
Er bod y trafodaethau gyda Gweinidog Tai ac Adfywio Cymru, Carl Sargeant, wedi bod yn "adeiladol", mae'r gymdeithas yn poeni nad yw gweision sifil yr un mor frwdfrydig dros yr iaith â nhw.
Yn ôl y gymdeithas, mae angen rhoi blaenoriaeth i bobl leol yn y system gynllunio er mwyn cryfhau cymunedau Cymraeg.
'Mwy o rym'
Ddechrau mis Rhagfyr cyhoeddodd Mr Sargeant fesur drafft a fyddai'n gweddnewid y gyfundrefn gynllunio trwy Gymru.
Fe fyddai'r mesur yn rhoi mwy o rym i Weinidogion Cymru wneud penderfyniadau uniongyrchol am ddatblygiadau pwysig, gan gynnwys prosiectau ynni sydd rhwng 25 a 50 megawat.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn pryderu fod nifer o geisiadau cynllunio proffil uchel - fel datblygiad Land and Lakes yn Sir Fôn, Penybanc ym Methesda, a chynllun i adeilad 1,700 o dai yn Sir Ddinbych - wedi cael eu trafod heb unrhyw ystyriaeth o'r effaith ar yr iaith.
'Pryderon'
Meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydym yn falch bod y Gweinidog wedi cydnabod bod ganddo fe gyfrifoldeb dros y Gymraeg; roedd yn fodlon gwrando ar ein cynigion manwl ynglŷn â'r ffordd ymlaen.
"Wedi dweud hynny, rydym yn pryderu am agwedd y gwasanaeth sifil - dydyn nhw ddim yn gweld bod effaith strwythurau cynllunio ar y Gymraeg yn sylweddol er eu bod nhw'n cydnabod yr effaith ar yr amgylchedd a'r economi.
"Rydyn ni wedi cyflwyno'r syniadau polisi hyn er mwyn dangos i'r Gweinidog bod y mesur yn gyfle mawr i gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Fe wnaeth y gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio, Carl Sargeant, gwrdd â Chymdeithas yr Iaith i drafod drafft y mesur cynllunio a dogfen Ymgynghori Cynllunio Positif.
"Mae'r ymgynghoriad wedi dechrau'r wythnos diwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ymatebion.
"Mi fyddan nhw i gyd yn cael eu hystyried wrth ffurfio'r mesur a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Senedd y flwyddyn nesaf."
Dyddiad cau'r ymgynghoriad yw Chwefror 26, 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd6 Awst 2013
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013