Bandio ysgolion: cyhoeddi'r canlyniadau am y drydedd flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae canlyniadau bandio ysgolion uwchradd Cymru wedi eu cyhoeddi am y trydydd tro.
Ers 2011 mae pob ysgol uwchradd yng Nghymru wedi cael eu rhoi mewn grŵp bandio ar sail perfformiad; band un ydy'r uchaf a band pump ydy'r isaf.
218 o ysgolion gafodd eu bandio eleni. 20 o ysgolion sydd wedi eu gosod ym mand un, sydd wyth yn llai na'r llynedd.
Mae'r bandiau diweddaraf, dolen allanol yn dangos bod un ysgol yn Rhondda Cynon Taf wedi codi o'r band isaf y llynedd i'r band uchaf eleni sef Ysgol Uwchradd Glynrhedynog.
Asesu perfformiad
Mae bandio yn gweithio drwy asesu perfformiad ysgol o fewn pedair adran i greu un sgôr terfynol:
Canran y disgyblion sy'n ennill pump TGAU o radd A* i C, yn cynnwys Cymraeg, Saesneg neu fathemateg;
Yr wyth canlyniad TGAU gorau i ddisgyblion;
Perfformiad disgyblion lefel TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg;
Presenoldeb.
O fewn pob categori, mae sgôr ysgol yn cael ei addasu i ystyried canran y plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim. Mae hyn er mwyn cydnabod yr heriau o redeg ysgol mewn ardal ddifreintiedig.
Mae'r rhan fwyaf o'r categoriau hefyd yn ystyried sut y mae perfformiad ysgol wedi newid dros amser, er mwyn gwobrwyo ysgolion sy'n gwella'u perfformiad.
Eleni mae Ysgol Uwchradd Aberaeron, Ysgol Ardudwy ac Ysgol Gyfun Bro Morgannwg wedi codi o fand 4 i 1.
Ysgol Uwchradd Oakdale yng Nghaerffili sydd wedi cwympo fwyaf o fand 1 i fand 4. Mae 5 o ysgolion ar draws Cymru wedi disgyn o'r band uchaf i fand 3 neu 4.
Mae cyfanswm o 81 ysgol wedi symud i lawr un band neu fwy rhwng 2012 a 2013 ac mae 71 ysgol wedi cael eu gosod mewn band uwch.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae 5 o'r 11 o ysgolion ym mand 1.
Ni chafodd 4 ysgol eu bandio.
Beirniadaeth
Cyflwynwyd y system yn 2011 ac mae yna feirniadaeth wedi bod ohoni gan undebau athrawon. Maen nhw'n dadlau nad ydy bandio yn adlewyrchu perfformiad ysgolion mewn gwirionedd, oherwydd y gall ysgol symud i fyny neu i lawr yn sylweddol o fewn blwyddyn neu ddwy.
Ond dydy Llywodraeth Cymru ddim yn derbyn y ddadl honno, gan ddweud mai dyna ydy holl bwrpas y system.
Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn dadlau bod y ffaith fod cynifer o ysgolion a oedd ym mandiau 4 a 5 yn 2011 wedi esgyn i fandiau uwch flwyddyn yn ddiweddarach yn dystiolaeth fod y system yn gweithio.
Y flwyddyn nesaf fe fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r system gyda'r posibilrwydd o gynnwys tlodi fel rhan o'r drefn newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2013