Cyngor Conwy yn penderfynu dymchwel pier Bae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Conwy wedi pleidleisio i ddymchwel pier hanesyddol Fictoria ym Mae Colwyn.
Daw'r penderfyniad yn dilyn trafodaethau y bore 'ma.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Conwy yn gwario £53,000 bob blwyddyn ar gynnal a chadw'r strwythur a adeiladwyd yn 1900.
Ers 2008, mae'r cyngor wedi bod yn gofalu am y pier 750 troedfedd o hyd, wedi i'r perchennog Steven Hunt fynd yn fethdalwr.
Angen £15m
Yn ôl y cyngor, roedd angen £15m i adnewyddu'r pier.
Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Conwy, Ronnie Hughes o'r Blaid Lafur, nad oedd neb yn fodlon dweud "o ble y byddai'r arian ychwanegol yn dod. Weithiau, mae'n well rhoi'r gorau iddi na chamarwain pobl".
Meddai John MacLennan (Ceidwadwyr), "mae gan y cyngor gyfrifoldeb i edrych ar ol y coffrau. Os ydyn ni'n gwario gormod yn fan hyn, bydd rhaid gwneud toriadau i wasanaethau eraill".
Ond doedd y cynghorydd annibynol, Bob Squire ddim yn cytuno. Roedd o'n dadlau bod "cefnogaeth gyhoeddus gref i achub y pier, nad oes modd ei anwybyddu".
Ychwanegodd, "Mae'r pier yn rhan o dreftadaeth Bae Colwyn. Os nad ydyn ni'n mynd ati i wneud cais am grant, fyddwn ni byth yn gwybod beth allai fod wedi digwydd".
Opsiynau i'w hystyried
Roedd gan gynghorwyr chwe opsiwn i'w hystyried, yn cynnwys dymchwel y pier, bwrw 'mlaen gyda'r adnewyddu, neu adnewyddu rhan o'r strwythur.
Ond dywedodd arbenigwyr y byddai pob opsiwn yn gostus. Roedd hefyd angen gwerth £174,000 o waith ar frys i ddiogelu'r strwythur.
Clywodd cynghorwyr fod pryder a fyddai'r grŵp cymunedol sefydlwyd i helpu i adnweyddu'r pier yn gallu ymgymryd â'r gwaith yn llwyddiannus.
Ond dywedodd Gavin Davies o'r grŵp na ddylid rhoi'r ffidil yn y to, gan y gallai'r broses gymryd misoedd, os nad blynyddoedd.
Aelod Cynulliad yn 'siomedig'
Meddai Darren Millar, Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd, "fe fyddwn i, fel nifer o bobl, yn caru gweld Pier Fictoria yn cael ei adnewyddu i safon y dyddiau a fu, ac rwy'n gwybod bod Cyngor Conwy wedi gweithio'n galed i geisio cyflawni hyn.
"Yn anffodus, mae'n anodd gweld sut y gall unrhyw brosiect sicrhau dyfodol y pier yn hirdymor. Felly, er fy mod i'n siomedig, rwy'n deall mai dymchwel y pier yw'r unig opsiwn realistig.
"Rwan, mae'n rhaid i'r cyngor weithio gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri, CADW a phartneriaid eraill i ddiogelu gwaith celf ac eitemau eraill diwylliannol a hanesyddol, a gwneud yn siwr y gall y cyhoedd barhau i'w mwynhau.
"Mae Bae Colwyn yn dref sy'n ffynnu. Roedd y pier wedi gweld dyddiau gwell, ac yn amharu ar y datblygiadau eraill yn y dre' ers tro.
"Er y bydd derbyn y penderfyniad yn anodd i ymgyrchwyr lleol, o leia' bydd y mater wedi ei ddatrys yn fuan, unwaith ac am byth".
Brwydr gyfreithiol
Roedd perchennog blaenorol y pier, Steven Hunt yn bresennol yn y cyfarfod.
Mae o'n tybio nad oes gan y Cyngor hawl i wneud penderfyniadau am yr adeilad ar hyn o bryd.
Meddai: "Mae hyn yn bisâr, nid y Cyngor sy'n berchen ar y pier.
"Mi fydd achos perchnogaeth y pier yn cael ei drafod eto, fe wnes i guro apêl yn erbyn rhesymau gwrthod fy mherchnogaeth.
"Ar y gorau, be sydd gan y Cyngor ydi opsiwn ar y pier, mae'r dadlau yn dal i fynd yn ei flaen, allan nhw ddim gwneud dim byd tan ma' hynny wedi ei setlo."
Ymatebodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy: "Ers Mawrth 27, 2012 y cyngor sy'n berchen ar rydd-ddaliad y pier.
"Mae hyn wedi cael ei herio yn Yr Uchel Lys gan Steven a Gloria Hunt, gwrthodwyd eu cais gan Llys Sirol Caerdydd ond maent wedi cael yr hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad yn Yr Uchel Lys.
"Mae dau ran wedi dychwelyd i'r llys sirol yng Nghaerdydd i'w barnu eto.
"Does yna ddim dyddiad ar gyfer hyn eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd24 Mai 2013
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2012