Diffoddwyr yn cynnal pumed streic
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau tân yn rhybuddio pobl i fod yn fwy gofalus ddydd Gwener, wrth i ddiffoddwyr tân streicio am y pumed tro o fewn ychydig fisoedd.
Dechreuodd aelodau Undeb y Diffoddwyr Tân streicio am 6.00pm ddydd Gwener tan 10:00pm. Bydd streic arall debyg yn digwydd ddydd Sadwrn Rhagfyr 14eg.
Mae'r undeb yn dweud eu bod yn streicio dros ddiogelwch a phensiynau eu haelodau.
Ond mae rhai penaethiaid y gwasanaeth wedi cyhuddo'r undeb o streicio ar adeg pan fod mwy o risg i'r cyhoedd.
Mae'r undeb yn anhapus gyda chynlluniau Llywodraeth y DU i godi'r oed ymddeol o 55 i 60, gan honni bod y math o waith mae diffoddwyr tân yn ei wneud yn golygu bod gweithwyr hŷn yn ei chael hi'n anodd.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o streiciau dros yr anghydfod.
Mae llywodraeth y DU yn dweud bod angen i gynlluniau pensiwn fod yn "gynaliadwy", a bod streicio yn ddiangen.
'Cynyddu'r risg'
Mae prif swyddog y gwasanaeth tân yn y gogledd wedi dweud bod cynnal streic ar nos Wener a Sadwrn yn cynyddu'r risg i'r cyhoedd.
"Un pryder penodol sydd gyda ni ar adeg yma'r flwyddyn yw'r tebygolrwydd bod pobl allan yn dathlu wrth agosáu at y Nadolig sy'n codi'r risg i ddiogelwch," meddai Simon Smith.
"Fel arfer mae'r rhain yn adegau lle mae galwadau i'r gwasanaeth ar eu huchaf ac yn anffodus mae'n debygol na fyddwn yn gallu ymateb fel y byddwn fel arfer."
Mae dirprwy bennaeth gwasanaeth y de, Rod Hammerton, yn dweud na fyddant yn dibynnu ar gymorth milwrol bellach.
"Yn ystod y cyfnod streic bydd y gwasanaeth yn parhau i geisio helpu i'r gorau o'n gallu gyda'r adnoddau sydd gyda ni a byddwn yn blaenoriaethu'r adnoddau yma at achosion sy'n canolbwyntio ar ddiogelu bywydau."
Mae'r gwasanaeth wedi recriwtio tîm wrth gefn, sef aelodau o'r cyhoedd sydd wedi derbyn hyfforddiant sylfaenol.
"Y ffordd orau i'r cyhoedd aros yn ddiogel yw osgoi unrhyw ddamwain yn y lle cyntaf a bod yn ofalus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd25 Medi 2013