70 o swyddi hamdden mewn perygl yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
HeulfanFfynhonnell y llun, Eirian Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hamdden Clwyd yn dweud y gall gyfleusterau hamdden, fel yr Heulfan, orfod cau

Mae ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am wasanaethau hamdden yn Sir Ddinbych yn dweud bod 70 o swyddi yn y fantol wedi toriadau i'w cyllid.

Dywedodd Hamdden Clwyd eu bod wedi dechrau ymgynghoriad ar ddiswyddo 70 o weithwyr llawn amser a 55 o staff tymhorol hefyd.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 2001 gan Gyngor Sir Ddinbych i edrych ar ôl rhai cyfleusterau hamdden fel yr Heulfan yn y Rhyl a'r Ganolfan Nova ym Mhrestatyn ar eu rhan.

Nawr, mae sefydliad di-elw Hamdden Clwyd yn dweud bod toriadau i'w cyllid yn golygu gall rhai gwasanaethau gau.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried eu hymateb.

Toriadau

Mae Hamdden Clwyd yn dweud bod ganddyn nhw gytundeb cyllid gyda'r cyngor i dderbyn swm penodol o arian bob blwyddyn.

Ond nawr maent yn dweud bod y cyngor wedi torri ar y gyllideb honno bob blwyddyn, gan beryglu dyfodol y cwmni.

Mae'r cwmni yn honni bod eu cyllideb wedi disgyn o £391,000 pan ddechreuon nhw, i £295,000 yn 2012. Yn 2013 cafodd ei dorri o £50,000 arall, gyda'r cyngor yn bwriadu ei leihau bob blwyddyn.

O ganlyniad i'r toriadau, mae Hamdden Clwyd yn rhybuddio y gall nifer o wasanaethau gael eu heffeithio:

  • Mae'n bosib na fydd Heulfan y Rhyl yn agor yn 2014;

  • Gall y Ganolfan Nova ym Mhrestatyn gau ym mis Mawrth 2014;

  • Gall Ganolfan Bowls Gogledd Cymru ym Mhrestatyn gau yn 2014.

'Cost ychwanegol'

Mae Hamdden Clwyd yn dweud bydd cost ychwanegol sylweddol i'r trethdalwr os yw'r cyngor yn penderfynu cymryd rheolaeth dros y cyfleusterau hamdden dan sylw,

Dywed y cwmni ei fod hi'n "anffodus iawn y bydd ein cwsmeriaid a chymunedau lleol yn debygol o ddioddef a swyddi yn cael eu colli oherwydd gweithred, neu ddiffyg gweithred Cyngor Sir Ddinbych."

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Ddinbych: "Daeth fel sioc i weld datganiad Hamdden Clwyd gafodd ei gyhoeddi prynhawn 'ma, ac fe fyddwn yn ystyried ein hymateb yn llawn dros y penwythnos.

"Gan ystyried yr hyn sydd wedi ei ddweud gan y cwmni, byddwn yn ymateb yn ofalus ac yn llawn fore Llun."