Llifogydd yn effeithio ar 30 o dai yn Nhreorci
- Cyhoeddwyd
Mae pobl wedi gorfod gadael eu tai yn Rhondda Cynon Taf oherwydd llifogydd wedi i ganolfan pwmpio dŵr fethu a gweithio nos Sadwrn.
Cafodd hyd at 30 o dai eu heffeithio yn Nhreorci.
Dywedodd Dŵr Cymru bod y broblem wedi ei drwsio, ac ymddiheurodd i'r bobl gafodd eu heffeithio.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 10.00yh, a dywedodd Gwasanaeth Tân De Cymru eu bod wedi pwmpio dŵr i ffwrdd o gyfeiriad tai ar Stryd Rees a'r Stryd Fawr.
Roedd glaw trwm yn yr ardal nos Sadwrn ac mae'r cyngor nawr wedi sefydlu canolfan argyfwng yng Nghanolfan Hamdden y Rhondda wedi'r llifogydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Cafodd Dŵr Cymru ei galw i lifogydd neithiwr ar Stryd Fawr Treorci.
"Roedden ni ar y safle cyn gynted a phosib i ymchwilio i'r digwyddiad gafodd ei achosi wedi i ganolfan pwmpio lleol fethu a gweithio, ynghyd a'r glaw trwm.
"Fe wnaethon ni weithio dros nos i drwsio'r broblem a lleihau'r llifogydd.
"Rydym yn ymddiheuro a byddwn yn cysylltu gyda chwsmeriaid i roi cefnogaeth i'r rhai gafodd eu heffeithio."
Dywedodd AC y Rhondda, Leighton Andrews ei fod wedi siarad hefo nifer o bobl yn yr ardal, a bod nifer "wedi dioddef difrod sylweddol wrth agosáu at y Nadolig".
Dywedodd bod Dŵr Cymru wedi cymryd cyfrifoldeb, ac y bydden nhw yn rhoi arian am unrhyw golledion.
"Mae pobl yn amlwg yn flin - nid dyma'r tro cyntaf i gael llifogydd ac rydw i wedi siarad gyda nhw o'r blaen am y problemau yma," meddai.
"Maen nhw nawr yn edrych at Dŵr Cymru i gwblhau eu haddewidion."