Cyngor Môn angen £173m ar gyfer ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Y Graig Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Fydd yna fwy o ysgolion debyg i Ysgol Y Graig yn Llangefni yn cael eu hadeiladu ar ynys Môn?

Gall ysgolion newydd gael eu codi, gyda nifer yn cau neu'n cael eu cyfuno, fel rhan o gynllun moderneiddio addysg ar Ynys Môn dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae amcangyfrif y bydd angen £173 miliwn i ariannu strategaeth Cyngor Môn, sy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn fodlon cyfrannu £86,640,000 dros y blynyddoedd i ddod.

Credir y bydd adeiladu Atomfa Wylfa Newydd, a rhaglen Ynys Ynni, yn help wrth i'r sir chwilio am grantiau i ariannu eu cynlluniau.

Ond mae'r cynghorwyr wedi gohirio trafod yr adroddiad ac mae'n debyg bydd yn dod yn ôl gerbron y pwyllgor gwaith yn y flwyddyn newydd.

Mae'n orfodol ar bob Cyngor Sir ysgrifennu Rhaglen Amlinellol Strategol a Strategaeth Foderneiddio sy'n trafod anghenion addysg yn y tymor hir a'u rhoi gerbron Llywodraeth Cymru.

Sicrhau cyllid

Meddai rheolwr rhaglen foderneiddio'r cyngor, Emrys Bebb: "Nid oes unrhyw ddisgwyl ar hyn o bryd y bydd unrhyw ffynhonnell cyllid ychwanegol sylweddol ar gael, ond bydd y Cyngor yn rhagweithiol wrth chwilio am gyfleoedd i adnabod a sicrhau cyllid o'r fath yn unol â rhesymoli asedau.

"Bydd nifer o ddatblygiadau mawr yn digwydd ar yr ynys dros y blynyddoedd nesa', fel y Rhaglen Ynys Ynni, ac mae'r posibilrwydd o sicrhau cyllid mewn perthynas ag un neu fwy o'r rhain yn rhywbeth y byddwn yn edrych arno'n ofalus iawn."

Yn ôl yr adroddiad, mae ariannu'r prosiectau cyntaf yn fforddiadwy, ond mae Mr Bebb yn cydnabod fod perygl na fyddan nhw'n gallu gwerthu'r asedau i gael cyfalaf ar gyfer prosiectau pellach.

Mae yna bedwar band o ysgolion, gyda'r amserlen yn dechrau yn 2013/14 ac yn mynd ymlaen i'r 2020au.

Petai'r cynlluniau'n cael eu gwireddu, bydd y cyngor yn ystyried ysgolion fesul ardal. Fel rhan o'r grŵp cynta' dan sylw fydd ysgolion yng ngogledd Caergybi, ardal Biwmares, y de orllewin a'r gogledd orllewin.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol