Watkins: 'Y peryclaf erioed'?

  • Cyhoeddwyd
Ditectif Prif Arolygydd Peter Doyle
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r Ditectif Prif Arolygydd Peter Doyle wedi gweld achos gwaeth mewn 28 mlynedd

Wrth i gyn ganwr grŵp y Lostprophets ddechrau cyfnod hir dan glo, mae'r plismon fu'n arwain yr ymchwiliad wedi rhybuddio y gallai mwy o gyhuddiadau ddilyn.

Cafodd Ian Watkins ei garcharu am 35 mlynedd ddydd Mercher wedi iddo bledio'n euog i gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys un o geisio treisio babi.

Ond yn ôl y Ditectif Prif Arolygydd Peter Doyle o Heddlu De Cymru, mae seicoleg Watkins yn golygu fod ganddo'r potensial i fod y troseddwr rhyw mwyaf peryglus i gael ei ganfod erioed.

Ychwanegodd Mr Doyle ei bod yn debygol y bydd Watkins yn cael ei gyflwyno gyda mwy o gyhuddiadau yn ystod ei gyfnod yn y carchar wrth i'r heddlu barhau i chwilio am fwy o dystion a mwy o ddioddefwyr ym Mhrydain, yr Almaen ac America.

'Gwaethaf erioed'

"Rwy'n gweld Watkins fel unigolyn sydd wedi dangos dim empathi, dim cydymdeimlad, dim edifeirwch am yr hyn a wnaeth," meddai Doyle.

"Mae e fel pe bai e ddim yn malio o gwbl. Yn fy marn i, mae hynny'n golygu fod ganddo'r potensial i fod y troseddwr rhyw gwaethaf erioed i mi ei weld.

"Dyw troseddu yn erbyn plant ddim yn gallu bod yn waeth. Son am fabanod ydyn ni yn y fan hyn.

"I mi mae e'n bidoffeil trefnus a phenderfynol, ac rwy'n credu ei fod wedi troseddu yn erbyn plant eraill."

Cafodd dwy fenyw - mamau'r plant gafodd eu cam-drin gan Watkins - hefyd eu dedfrydu ddydd Mercher.

Ni ellir cyhoeddi eu henwau am resymau cyfreithiol, ond fe gafodd Menyw A ddedfryd o 14 mlynedd o garchar, a Menyw B 17 o flynyddoedd.

'Anghredadwy'

Wedi'r dedfrydu, dywedodd Suzanne Thomas o Wasanaeth Erlyn y Goron Cymru: "Fe wnaeth y tri diffynnydd gynllwynio i gyflawni troseddau ofnadwy yn erbyn dioddefwyr ifanc a diniwed.

"Mae Watkins yn unigolyn peryglus iawn... roedd y ddau ddiffynnydd arall yn rhan o gam-drin erchyll o'u plant eu hunain.

"Mae'n anghredadwy bod oedolion yn gallu cyflawni'r fath droseddau yn erbyn plant a phobl ifanc, ac rydym yn meddwl am y dioddefwyr a'r rhai sy'n agos atyn nhw."

Dywedodd Peter Wanless, prif weithredwr yr NSPCC:

"Mae'n iawn fod dedfrydau llym wedi eu cyhoeddi sy'n adlewyrchu'r niwed difrifol a achoswyd gan y ddwy fenyw yma ac Ian Watkins.

"Ond rhaid cofio am y dioddefwyr, sef plant yn yr achos yma. Gall effeithiau'r troseddau yma bara am oes ac mae llawer o blant eraill angen ein help.

"Yn yr wythnosau ers i Watkins bledio'n euog, fe ddaeth i'r amlwg fod llawer o bobl yn ymwybodol o'i gam-drin o blant... mae'n bryderus clywed rhai'n honni na fu gweithredu ar eu honiadau am beth amser ac mae'n iawn fod Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i hyn.

"Ond yn dilyn ple Watkins bu cynnydd sylweddol yn nifer y galwadau i'r NSPCC i adrodd am gam-drin yng Nghymru o'i gymharu â'r llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Watkins wedi ceisio cuddio cynnwys ei liniadur

"Mae hyn yn awgrymu bod sylw i achosion fel hyn wedi bod o gymorth wrth roi sylw i warchod plant, ac wedi arwain at fwy o bobl yn dod ymlaen er mwyn gwarchod plant."

Cyfrinair

Daeth rhybudd hefyd i bidoffiliaid gan yr asiantaeth gudd-wybodaeth GCHQ.

Pan gafodd Watkins ei arestio fe gafodd gliniadur ei gipio o'i gartref, ond roedd wedi ei gloi gyda chyfrinair, ac nid oedd yr heddlu yn medru gweld y cynnwys.

Ond fe lwyddodd arbenigwr o GCHQ ddatrys y cyfrinair, ac roedd y dystiolaeth a ganfuwyd ar y gliniadur yn allweddol wrth sicrhau bod Watkins wedi pledio'n euog i nifer o'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Roedd y cyfrinair ei hun yn gyfeiriad anweddus dros ben o hoffter Watkins o weithredoedd rhywiol gyda phlant.

Ychwanegodd Ditectif Prif Arolygydd Peter Doyle: "Mae'n wir i ddweud pan fod angen rhywun â gwybodaeth arbenigol o lefel uchel i'n cynorthwyo, yna mae'r arbenigedd ar gael i ni.

"Y neges i droseddwyr yw 'gallwch chi geisio cuddio pethau cymaint ag y gallwch chi - ond peidiwch meddwl eich bod yn ddiogel'.

"Mae gennym bobl sy'n gallu mynd i mewn i'r peiriant, ac fe fyddwn ni'n sicrhau cyfiawnder."