Rhew yn achosi trafferthion
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am rew ar ffyrdd Cymru fore Gwener.
Eisoes mae ambell ddamwain wedi achosi trafferthion, gyda nifer o ffyrdd yn anodd i yrwyr.
Hefyd mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi tri rhybudd i baratoi am lifogydd, sef y Teifi Isaf islaw Llanybydder, y Tywi Isaf o gwmpas Llandeilo a'r Teifi Uchaf uwchben Llanybydder.
Mae'r gwasanaeth tân wedi cael eu galw i wrthdrawiad ar gylchfan Abercynon ar yr A470 am 6:30am fore Gwener. Dim ond un cerbyd oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Ar ran arall o'r A470 mae lori a char wedi bod mewn gwrthdrawiad rhwng yr A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd) a'r A4059 (Ffordd Mynydd Penderyn).
Ar ffordd Blaenau'r Cymoedd (yr A465) i gyfeiriad y gorllewin mae traffig yn araf yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd rhwng yr A4061 (Ffordd Rhigos) a'r A4109 (cyfnewidfa Glyn-nedd).
Does dim son hyd yma am unrhyw anafiadau.
Mae'r heddlu wedi rhybuddio bod gyrru'n anodd ar yr A4058 ger Porth yn y Rhondda, ac mae'r A4067 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng y B4291 Ffordd Birchgrove a'r M4 cyffordd 45 (Ynysforgan).
Dywed y gwasanaethau brys bod cerbyd wedi troi drosodd cyn gadael y ffordd a does dim amcangyfrif hyd yma pryd fydd y ffordd yn ailagor.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cynghori pobl i fod yn ofalus gan fod llawer o rew ar ffyrdd yn ardal Gwent.