2013: Blwyddyn gymysg i'r celfyddydau
- Cyhoeddwyd
Bu'n flwyddyn gymysg i'r celfyddydau yng Nghymru. Roedd hi'n gyfnod o lwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol i nifer o berfformwyr Cymreig, ond hefyd yn flwyddyn o anghydfod a siom i eraill.
O lwyddiant gwyliau byd enwog i ddigwyddiadau cyffrous yn denu sylw i Gymru, bu'n flwyddyn i'w chofio yn sicr.
Ond bu siom hefyd wrth i Fae Abertawe fethu dod yn Ddinas Diwylliant.
Gohebydd celfyddydau Huw Thomas sy'n edrych nôl ar ddigwyddiadau 2013.
Roedd hi'n ddechreuad diflas i'r flwyddyn i gefnogwyr cerddoriaeth Gymraeg.
Fe barodd yr anghydfod rhwng Eos a'r BBC am flwyddyn gyfan - gyda'r gerddoriaeth yn diflannu o'r tonfeddi am chwe wythnos, a'r ddwy ochr yn wynebu ei gilydd mewn tribiwnlys hawlfraint i geisio datrys yr anghydfod.
Yn y dyfarniad, penderfynwyd mai £100,000 y flwyddyn yw gwerth cerddoriaeth aelodau Eos i'r BBC - miliwn a hanner oedd y swm roedd Eos yn gobeithio ennill.
Cafodd cerddoriaeth draddodiadol sylw mawr yn ystod dwy fil ag un deg tri wrth i Womex gyrraedd Caerdydd gyda pherfformiadau gan artistiaid o Gymru ac yn y Gymraeg yn cael sylw yn ystod yr ŵyl canu byd.
Aeth y celfyddydau dramor, gydag arddangosfa Bedwyr Williams yn Venice yn denu clod y beirniaid.
Roedd Caeredin, hefyd, yn llwyfan i dalent Gymreig. Dwsinau o berfformwyr a chwmnïau theatr yn cymryd rhan yng ngŵyl y Ffrinj dros yr haf, a rhai ohonyn nhw ymysg digwyddiadau mwya' poblogaidd y ddinas.
Canwr y Byd Caerdydd eleni oedd Jamie Barton, mezzo soprano o America - cydiodd yng nghalonnau'r gynulleidfa, a derbyniodd bleidleisiau'r beirniaid.
Fe aeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn i Heini Gruffudd am ei gyfrol Yr Erlid, llyfr sy'n olrhain hanes ei fam a'i theulu yn yr Almaen, dan reolaeth y Natsïaid.
Roedd 'na siom i Fae Abertawe wrth golli mas i Hull yn y frwydr i fod yn Ddinas Diwylliant dwy fil ag un deg saith.
Ac roedd 'na gryn embaras i BAFTA Cymru ar ôl i'r wobr yng nghategori "newyddion" y noson fynd i'r enillydd anghywir - camgymeriad clerigol, yn ôl y trefnwyr, a oedd hefyd wedi addo ymchwiliad.
Hanner can mlynedd ers protest ymgyrchwyr iaith ar Bont Trefechan, Theatr Genedlaethol wnaeth ail-greu'r foment hanesyddol mewn cynhyrchiad ar strydoedd Aberystwyth fis Chwefror.
Aeth y gynulleidfa ar daith o amgylch y dref, yn gwylio perfformiadau ar gornel stryd, ac ar y Bont ei hun.
Roedd cynulleidfa o filiynau o bobl o bedwar ban byd wedi gwylio dathliadau'r Doctor yn bum deg mlwydd oed.
Cafodd rhaglen euraid Doctor Who ei wylio ar deledu ac mewn sinemâu ar draws y byd - ac fe ddaeth a'r Tywysog Siarl i Gaerdydd i weld y stiwdios ble lleolir y Tardis. Cyfle hefyd i weld y dechnoleg tu ôl i'r Daleks ar waith
I rai perfformwyr roedd dwy fil ag un deg tri yn gyfnod anodd, ond i eraill fe fydd y flwyddyn yn cael ei chofio am roi llwyfan rhyngwladol i rai o artistiaidmwya' talentog y wlad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2013