Dynes wedi marw mewn afon yn Nant Ffrancon, Bethesda

  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad ar droed wedi i'r gwasanaethau brys ddod o hyd i gorff dynes mewn afon yn Nant Ffrancon brynhawn Llun.

Cafodd yr heddlu alwad toc cyn 4 yh yn dweud bod dynes yn yr afon.

Aeth yr heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a thîm achub mynydd yno i geisio ei hachub ond roedd y ddynes wedi marw yn y fan a'r lle.

Dywedodd Paul Smith o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen: "Mae'n debyg bod y ddynes wedi mynd allan i gael golwg ar gyflenwad dŵr ei chartref.

"Ychydig wedi hynny, fe sylwodd ei phartner ei bod hi wedi mynd.

"Dim ond 50 medr o'i chartref mae'r lleoliad lle daethon ni o hyd iddi.

'Llifo'n gyflym'

Ychwanegodd: "Ffrwd fechan yw hi sy'n llifo i lawr y mynydd - tua hanner medr o led a thri chwarter medr o ddyfnder - ond roedd hi'n llifo'n gyflym.

"Fe alwyd yr holl wasanaethau brys yno.

"Cafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw oherwydd y lleoliad ac oherwydd ein harbenigedd mewn achub o ddŵr sy'n llifo'n gyflym."