Lloches i gael ei hadfer
- Cyhoeddwyd
Fe fydd yn rhaid i Gyngor Ceredigion adfer adeilad ar bromenâd Aberystwyth a gafodd ei ddifrodi yn ystod y tywydd garw diweddar.
Ddydd Mercher fe wnaeth swyddogion CADW, y corff sy'n gyfrifol am warchod adeiladau rhestredig yng Nghymru gwrdd â swyddogion y cyngor.
Dywedodd CADW fod angen i'r lloches, gafodd ei chodi yn y 1920au, gael ei hatgyweirio a'i ddodi nôl yn yr un safle.
Mae'r adeilad yn un rhestredig, Gradd 2.
Codi'r lloches
Fe gafodd seiliau'r adeilad eu chwalu yn y stormydd gan greu twll yn y llawr ac mae'r lloches wedi syrthio yn rhannol i'r twll.
Dywed Cyngor Ceredigion eu bod am geisio codi'r adeilad mewn un darn a hynny rywbryd yr wythnos nesa'.
Dywedodd, Mel Hopkins, un o swyddogion peirianyddol y sir, "Maen nhw am i ni gadw'r adeilad, neu gymaint o'r adeilad a ni'n gallu...
"Wrth gwrs mae rhaid cael y balans a thynnu fo allan yn saff a rhaid gwneud o yn sydyn oherwydd bod y cyhoedd yn dod i weld yr adeilad ac mae'n rhaid bod o'n cael ei dynnu mas yn weddol sydyn cyn bod pobl yn cael dolur."