Cyngor Rhondda Cynon Taf: Codi oedran addysg
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn codi'r oedran y mae plant yn dechrau addysg lawn amser o dair i bedair oed.
Byddai cynyddu'r oedran yn arbed £4.5 miliwn y flwyddyn.
Mae'n rhan o nifer o newidiadau cabinet y cyngor sy'n anelu at arbed £70 miliwn dros bedair blynedd.
Ond bydd newid yr oedran addysg yn dod i rym ym mis Medi yn lle mis Ebrill fel yr oedd wedi ei grybwyll yn wreiddiol.
Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor Paul Cannon fod hyn yn dangos bod y cyngor wedi gwrando ar farn y bobl.
Mae 6,500 o drigolion wedi bod yn rhan o ymgynghoriad ynglŷn â chynigion toriadau i nifer o wasanaethau.
Ymhlith yr argymhellion dan sylw roedd cau llyfrgelloedd a chanolfannau dydd i'r henoed.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys cau 12 o 26 o lyfrgelloedd y sir. Yn wreiddiol, y bwriad oedd 14 o lyfrgelloedd.
Canolfannau hamdden
Y llyfrgelloedd sydd wedi cael eu clustnodi i gau yw Treherbert, Ton Pentre, Penygraig, Ynyshir, Maerdy, Cwmbach, Penrhiwceibr, Ynysybwl, Cilfynydd, Tonyrefail, Nantgarw a Beddau.
Byddai newidiadau i wasanaethau ieuenctid yn arbed £2.2 miliwn, tra byddai rhoi'r gorau i wasanaeth pryd ar glud ar y penwythnosau yn arbed £300,0000.
Yn ôl swyddogion y cyngor, byddai cau 10 allan o 19 o ganolfannau dydd yn arbed £600,000 y flwyddyn.
Roedd y cabinet yn trafod rhan un y cynllun arbedion yn y bore ac yna yn cyhoeddi argymhellion ail ran y cynllun arbedion am hanner dydd ddydd Mercher.
Mae cynigion yr ail ran yn cynnwys cau Amgueddfa Cwm Cynon a chanolfan gelfyddydau'r Muni ym Mhontypridd.
Hefyd mae swyddogion yn argymell cau chwe phwll nofio padlo, sydd ar hyn o bryd ar agor am chwe wythnos bob haf.
Goleuadau
Byddai'r awdurdod yn cau Pwll Nofio Bronwydd, Pwll Nofio Y Ddraenen Wen - oni bai bod yr ysgol uwchradd leol yn fodlon cymryd cyfrifoldeb am y safle- a Chanolfan Hamdden Llanilltud Faerdref.
Cynnig arall yw cwtogi oriau agor canolfannau hamdden Rhondda Fach, Abercynon, Y Ddraenen Wen a Thonyrefail.
Byddai llai o ddefnydd o oleuadau stryd tra byddai'r arian sy'n cael ei roi i gynnal gwasanaethau bysiau yn cael ei haneru o £841,00 i £441,000 y flwyddyn.
Un o'r argymhellion eraill yw codi taliadau uwch am wasanaethau cymdeithasol sy'n cael eu cynnig i oedolion.
Mae 22 o awdurdodau lleol un ai wedi cyhoeddi neu yn y broses o gytuno ar wneud toriadau i'w gwasanaethau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2013