Gwrthod presgripsiwn uniaith Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Archfarchnad Morrisons
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Morrisons fod yna ganllawiau caeth

Mae cwpwl o Wynedd wedi beirniadu archfarchnad Morrisons, ar ôl iddyn nhw wrthod rhoi presgripsiwn i'w mab, a hynny am fod y presgripsiwn yn Gymraeg.

Bu'n rhaid i Aled ac Alys Mann, o'r Felinheli ddychwelyd at y feddygfa i gael presgripsiwn yn Saesneg, cyn gallu cael y feddyginiaeth roedd angen ar eu mab, Harley.

Dywedodd llefarydd ar ran Morrisons bod yna ganllawiau caeth yn gysylltiedig â pharatoi presgripsiwn, a bod y canllawiau'n nodi bod yn rhaid i'r wybodaeth fod yn Saesneg neu'n ddwyieithog.

Roedd hynny, meddai'r llefarydd "er mwyn gwneud yn siŵr bod y dos cywir yn cael ei roi."

Dywedodd Mr Mann fod eu mab 15 mis oed wedi dechrau bod yn sâl nos Sul, gan dagu. Aed ag ef at y meddyg ddydd Llun.

"Doctor Cymraeg oedd o, a gafo' ni sgwrs Cymraeg efo fo a phresgripsiwn Cymraeg ganddo fo," meddai Mr Mann.

"Aethom ni i Tesco Bangor ond doedd y feddyginiaeth o' ni ei angen ddim mewn stoc.

"Wnaethon nhw ffonio o gwmpas a'r unig le oedd efo'r feddyginiaeth mewn stoc oedd Morrisons.

"Ond roedden nhw'n cau ei roi o oherwydd ei fod [y presgripsiwn] yn Gymraeg."

Dywed Mr Mann nad oedd y fferyllydd yn siarad Cymraeg.

Bu'n rhaid iddo fynd yn ôl i'r Felinheli i gael y presgripsiwn wedi ei ail ysgrifennu ond roedd y meddyg gwreiddiol wedi gorffen ei waith.

"Felly bu'n rhaid ffonio doctor arall i wneud y presgripsiwn yn Saesneg a ffacsio fo draw i Morrisons.

"Dim ond pum gair oedd yn Gymraeg, sef sut oedd y teulu i fod i roi'r feddyginiaeth i'r plentyn."

Dywedodd Dr Phil White, sy'n llefarydd ar ran cymdeithas feddygol y BMA yng Nghymru, y dylid ysgrifennu presgripsiwn yn Saesneg neu'n ddwyieithog.

"Byddwn yn awgrymu eich bod yn sgwennu fod yn Gymraeg ac yn Saesneg," meddai.

"Rhaid i chi ddeall nid pawb yn y Gwasanaeth Iechyd sy'n deall Cymraeg.

"Y peth mwyaf diogel o ran y claf ydi eich bod yn sgwennu o yn Saesneg hefyd os yda' chi eisio fo yn Gymraeg."