£1m ar gyfer mynwent oes Fictoria yn Wrecsam?
- Cyhoeddwyd
Gall Cyngor Wrecsam dderbyn dros £1 miliwn, rhan o gynllun i drawsnewid mynwent yn y dref.
Mae rhannau o fynwent Fictoraidd Wrecsam ar Ffordd Rhiwabon ar gau i'r cyhoedd oherwydd pryderon am ddiogelwch.
Hyd yn hyn mae'r cyngor wedi cael grant o £54,500 i ddechrau adnewyddu'r fynwent gafodd ei hagor yn 1876.
Mae'r fynwent yn un o 15 o safleoedd yn y DU sy'n derbyn arian ar gyfer gwaith cadwraeth ac adnewyddu.
Cefnogi cadwraeth
Mae'r arian yn rhan o gynllun Parks for People sy'n defnyddio arian cronfeydd y Loteri.
Daw'r grant cyntaf i'r cyngor gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a bydd modd gwneud cais am hyd at £1m dros y misoedd nesaf.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i geisio adfer y fynwent a'r capel Fictoraidd i'w cyflwr gorau.
"Rydym yn falch iawn bod Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cefnogi'r cynllun," meddai'r Cynghorydd Bob Dutton sydd â chyfrifoldeb am yr amgylchedd ar y cyngor.
"Mae mynwent Wrecsam yn un o'r enghreifftiau gorau o fynwentydd Fictoraidd yng Nghymru a byddai ei hadnewyddu i'w chyflwr gwreiddiol yn wych ar gyfer treftadaeth yn Wrecsam.
"Hefyd mae nifer o feddau diddorol y byddai modd ymchwilio ymhellach i'w hanes, gan gynnwys beddau pobl o Wlad Pwyl a Gwlad Belg yn ystod y ddau ryfel byd fyddai'n ychwanegu at y wybodaeth sydd gyda ni am Wrecsam yn ystod y cyfnod yma."
140 mlwydd oed
Cafodd y capel, sydd yn adeilad rhestredig, ei ddylunio gan syrfëwr lleol, William Turner, a chafodd y gerddi eu dylunio gan arddwr a gwleidydd o'r enw Strachan.
Cafodd yr angladd cyntaf ei gynnal yn 1876, un merch ifanc leol o'r enw Ethel Greene, fu farw yn 11 oed.
Mae'r capel ar gau i'r cyhoedd oherwydd pryderon am ddiogelwch rhai o'r meini.
Dywedodd Pennaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru, Jennifer Stewart: "Rydym yn gwybod bod gan ein mynwentydd hanesyddol lawer iawn o wybodaeth am ein cymunedau a sut yr oedden nhw wedi datblygu ac mae mynwent Wrecsam yn arbennig.
"Roedd ymrwymiad gwirfoddolwyr i'r cynllun wedi creu argraff a hefyd syniadau'r cyngor i helpu pobl ddysgu am a gofalu am y fynwent."