Ymgyrch i achub canolfannau hamdden Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
HeulfanFfynhonnell y llun, Eirian Evans
Disgrifiad o’r llun,

Yr Heulfan yn Y Rhyl yw un o'r atyniadau sydd dan fygythiad

Mae criw sy'n ceisio achub tair o brif ganolfannau hamdden Sir Ddinbych yn dweud bod yr ymgyrch yn "mynd o nerth i nerth".

Eisoes mae cannoedd wedi arwyddo deiseb yn annog y cyngor sir i roi'r gorau i gynlluniau i gau'r Heulfan yn Y Rhyl, yn ogystal â Chanolfan Nova a Chlwb Bowlio Dan Do Gogledd Cymru ym Mhrestatyn.

Fis diwethaf dywedodd Hamdden Clwyd, sy'n gyfrifol am yr holl atyniadau, fod toriad o £50,000 yn eu cyllideb gan y cyngor sir yn golygu eu bod nhw'n wynebu dod yn fethdalwyr.

Mae'r ddeiseb yn galw ar gynghorwyr i weithredu ar frys i rwystro cau'r "atyniadau pwysig".

'Methu ag ymdopi'

Ymddiriedolaeth nid-er-elw yw Hamdden Clwyd a sefydlwyd gan yr awdurdod yn 2001 i reoli adnoddau ar eu rhan.

Y llynedd fe rybuddiodd yr ymddiredolaeth nad oedd y "toriadau cyson i'w cyllideb" yn gynaliadwy.

Yna fe gyhuddodd y cyngor Hamdden Clwyd o gamreoli ac o fethu ag ymdopi â lleihad o 2.8% yn eu cymhorthdal pan oedd adran hamdden y cyngor yn wynebu toriad o 60%.

Dywedodd Hywyn Williams, cyfarwyddwr corfforedig y cyngor ar gyfer cwsmeriaid, fod y cwmni wedi derbyn rhybudd o dair blynedd am y toriadau.

Byddai'r cynllun i gau'r canolfannau ar Fawrth 31 yn golygu y byddai 70 o swyddi parhaol a 55 o rai tymhorol yn cael eu colli.

Bydd cabinet y cyngor yn trafod y mater ddydd Mawrth, Ionawr 14.

'Ymateb calonogol'

Yn ogystal â 400 o ffurflenni deiseb, mae deiseb ar-lein wedi ei lansio gan reolwraig y clwb bowlio, Laura Baldwin.

Dywedodd: "Mae'r ymateb gan y gymuned a thu hwnt wedi bod yn galonogol iawn."

"Dydw i ddim yn credu bod pobl yn sylwi mor bwysig yw'r clwb i'r gymuned. Yn ogystal â bowlio, rydan ni'n cynnal partïon i blant, gwersi Cymraeg ac mae'n fan cyfarfod i sefydliadau ac elusennau lleol."

Fis Ionawr 2013 fe gyflwynodd y cyngor gynlluniau i ddymchwel yr Heulfan yn Y Rhyl i adeiladu canolfan weithgareddau tanddwr newydd fyddai hefyd yn lle'r pwll nofio yng nghanolfan chwaraeon y dref.

Dyw'r cynlluniau ddim yn effeithio ar Theatr Pafiliwn Y Rhyl sydd yn rhan o'r un adeilad gan fod y theatr yn cael ei rheoli'n ganolog gan y cyngor.