Safle claddu yn Sir Benfro o'r oes Neolithig?
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosibl bod safle ar gyfer angladdau defodol yn Sir Benfro yn dyddio nôl 10,000 o flynyddoedd, bron ddwywaith yn hyn na'r hyn oedd archeolegwyr yn credu yn wreiddiol.
Roedd archeolegwyr yn arfer credu bod Carreg Trefael yn ardal Nanhyfer yn perthyn i Oes y Cerrig.
Ond mae profion dros gyfnod o dair blynedd wedi dod o hyd i eitemau sy'n dyddio nôl o bosib i'r oes Neolithig neu Mesolithig.
Mae arbenigwyr o Brifysgol Bryste wedi cael caniatâd i archwilio 1.9kg o esgyrn dynol.
Am ganrifoedd roedd Trefael yn cael ei ystyried yn un o gannoedd o safleoedd oedd yn dyddio 'nôl i'r Oes Efydd.
Ond mae Dr George Nash yn credu bod Carreg Trefael yn gorwedd uwchben siambr gladdu o'r oes Neolithig, ac mai hwn fyddai un o'r safleoedd cynharaf yng ngorllewin Prydain.
Dywedodd bod y profion yn awgrymu bod y safle wedi bod yn cael ei ddefnyddio fel safle claddu am o leiaf 5,000-6,000 o flynyddoedd.
"Mae arolwg wedi awgrymu fod y rhan fwyaf o'r ardal o fewn cilomedr i'r safle yn cynnwys gweddillion archeolegol.
"Fe fydd hi'n amhosib cael yr atebion i gyd. Ond mae'n anhygoel ein bod wedi dod o hyd i gymaint o ffeithiau a hyn yn arbennig o gofio natur asid y pridd yn Sir Benfro. Fel rheol mae pridd o'r math yma yn dinistrio unrhyw eitemau hynafol."
Ym 1889 mae'r cyfeiriad cyntaf ar fap at y garreg. Sefydliad Celfyddyd Creigiau Cymreig sy'n gyfrifol am Prosiect Trefael.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2012