Galw am ymchwiliad iechyd newydd
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yn galw am gynnal ymchwiliad cyffredinol i ddiogelwch cleifion yng Nghymru.
Mae Gweithredu Yn Erbyn Damweiniau Meddygol wedi anfon llythyr at y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn gofyn iddo gomisiynu adolygiad newydd "ar frys".
Yn ogystal mae'r elusen yn dadlau bod angen i'r adolygiad i ofal yn ysbytai Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont a Chastell-nedd Port Talbot wrando ar safbwyntiau cleifion sydd wedi derbyn gofal gwael yno.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd tystiolaeth gan gleifion a'u teuluoedd yn cael ei hystyried fel rhan o'r adolygiad presennol.
Yn ei lythyr, dolen allanol mae prif weithredwr yr elusen, Peter Walsh, wedi dweud y bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ar Ionawr 30 er mwyn rhoi cyfle i gleifion sydd wedi cael triniaeth wael yn y ddau ysbyty dan sylw rannu eu profiadau.
"Dydyn ni ddim yn credu bod dull gweithio'r adolygiad yn ddigon da er mwyn delio gyda'r materion dan sylw," meddai.
"Yn benodol, does dim ymrwymiad i ystyried safbwyntiau cleifion a theuluoedd sydd â thystiolaeth berthnasol i'w rhannu."
'Ymchwiliad newydd'
Mae Mr Walsh hefyd wedi dweud ei fod yn awyddus i weld adolygiad mwy cynhwysfawr fyddai'n edrych ar y gofal mae cleifion yn ei dderbyn yn holl ysbytai Cymru.
"Rydw i hefyd yn tynnu eich sylw at ein hadroddiad o 2013, Rhybuddion Diogelwch Cleifion yng Nghymru," meddai.
"Mae'r adroddiad, a hefyd y sgandals diweddar sy'n effeithio ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn awgrymu bod angen adolygiad ehangach o'r ffordd mae diogelwch yn cael ei weithredu, ei fonitro a'i reoleiddio.
"Rydw i'n awgrymu i chi ystyried adolygiad tebyg i'r un gafodd ei gynnal gan Sir Bruce Keogh yn Lloegr."
Mae hwn yn rhywbeth mae Aelodau Cynulliad Ceidwadol wedi galw amdano droeon.
Yn dilyn penderfyniad diweddar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd, dywedodd Darren Millar, sy'n cynrychioli'r blaid ar faterion iechyd: "Mae hyn yn fwy o dystiolaeth glir am yr angen am ymchwiliad tebyg i un Keogh ar safonau gofal cleifion o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru."
Amddiffyn yr adolygiad
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud mewn ymateb bod yr adolygiad presennol eisoes yn ystyried safbwyntiau cleifion a theuluoedd.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan:"Mae dwy ran i'r adolygiad yma. Y rhan gyntaf yw edrych yn ofalus ar arferion presennol, ac mae hyn yn digwydd nawr.
"Unwaith mae hyn wedi cael ei wneud bydd y tîm adolygu'n penderfynu pa faterion sydd angen mwy o sylw mewn cyd-destun hanesyddol.
"Bydd y gwaith o edrych yn ôl yn ddibynnol ar beth sydd wedi cael ei ddarganfod a bydd hyn yn cynnwys tystiolaeth gan gleifion a theuluoedd."
Ychwanegodd y llywodraeth hefyd fod systemau monitro eisoes mewn lle i ddarganfod a oes rhywbeth o'i le.
"Mae'r penderfyniad i gyhoeddi data RAMI (gwybodaeth ynglŷn â chyfradd marwolaethau) yn un o nifer o fesurau er mwyn gwella tryloywder o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru er mwyn ei gwneud hi'n haws i dderbyn gwybodaeth am berfformiad a safon," meddai'r llefarydd.
"Mae hyn, a mesurau eraill sy'n ymwneud â safon gofal, nawr ar gael ar wefan Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol, dolen allanol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013