Adolygiad i Fwrdd Iechyd Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn bwriadu cynnal adolygiad annibynnol i weithredoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Bydd yr adolygiad yn digwydd yn sgil y ffaith bod claf wedi dioddef esgeulustod mewn dau ysbyty sy'n cael eu rhedeg gan y bwrdd iechyd.
Aeth Lilian Williams i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Chastell Nedd Port Talbot dair gwaith rhwng mis Awst 2010 a Thachwedd 2012.
Adeg hynny y bu hi farw. Mae ei theulu yn dweud y cafodd hi driniaeth ofnadwy.
Dywed y Bwrdd Iechyd bod nifer o gamau wedi eu cymryd i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau. Mae'r gweithredu yma wedi arwain at ganlyniadau positif medden nhw.
Adroddiad Ann Clwyd
Bydd yr adolygiad annibynnol yn edrych ar y diwylliant o ofal yn enwedig ymhlith pobl hŷn mewn wardiau a sut mae'r bwrdd iechyd yn delio gyda chwynion. Mi fydd hefyd yn craffu ar y ffordd mae meddyginiaethau yn cael eu cofnodi a safon y nyrsio.
Mae'r gweinidog iechyd hefyd yn ystyried yr achos dros adolygiad annibynnol o sut mae polisi Gweithio i Wella Llywodraeth Cymru - sy'n ymwneud â delio gyda problemau o fewn y gwasanaeth iechyd - yn cael ei weithredu.
Cafodd adroddiad Ann Clwyd oedd yn edrych ar y broses delio efo chwynion yn y gwasanaeth iechyd yn Lloegr ei gyhoeddi yn ddiweddar.
Bydd yr adroddiad hwnnw yn cael ei ddefnyddio fel canllaw ar gyfer unrhyw waith yng Nghymru i wella'r ffordd mae staff yn delio gyda chwynion, yn ôl y gweinidog iechyd
Pan aeth Lilian Williams i'r ysbyty gyntaf fe gwynodd ei theulu am y ffordd yr oedd hi'n cael ei thrin.
Dywedodd ei mab Gareth Williams: "Yn aml mi fydden ni yn mynd i ymweld â hi ac yn gweld ei bod hi ddim wedi cael dim i fwyta am sawl diwrnod nes ei bod hi'n wan iawn. Doedd hi ddim yn gallu codi gwydr o ddŵr at ei cheg. Roedd hi yn dehydrated.
"Mi wnaethon ni eistedd wrth ei gwely hi tan fod ei thafod hi wedi chwyddo ac wedi cracio ac roedd ei gwefusau wedi hollti am ei bod hi angen diod cymaint.
"Mi oedd hi yn delirious i ddechrau, wedyn prin yr oedd hi yn ymwybodol. Mi oedd o fel ei bod hi mewn coma."
Dim ymchwiliad
Dywedodd y bwrdd iechyd y bydden nhw yn cynnal ymchwiliad ond wnaethon nhw ddim cysylltu gyda'r teulu am chwe mis. Er iddyn nhw ymddiheuro a dweud bod gwersi wedi eu dysgu ni wnaeth yr ymchwiliad ddigwydd.
Yn ôl y teulu, pan aeth ei mam i'r ysbyty eto yn 2012 mi oedd yr un problemau yn bodoli.
Fe wnaethon nhw son wrth y gwasanaethau cymdeithasol am eu gofidiau. Dim ond yr adeg hynny y cafon nhw wybod bod 'na ddim ymchwiliad wedi digwydd.
Casgliad yr ymchwiliad a ddigwyddodd yn y diwedd oedd bod llawer o'r cyhuddiadau gan y teulu yn gywir.
Cyfaddefodd y bwrdd iechyd nad oedd staff wedi rhoi'r gofal iawn i Mrs Williams i drin ei choes. Roedd hi wedi gorfod cael triniaeth i dorri ei choes i ffwrdd.
Fe ddywedon nhw hefyd eu bod nhw wedi rhoi gormod o foddion i'w thawelu.
Ceisio tawelu'r claf oedden nhw meddai Gareth Williams: "Pan nes i gwyno ei bod hi yn cael gormod o dabledi i'w thawelu mi ddywedon nhw fod hyn achos bod hi'n sgrechian yn y nos.
Trawiad
"Pan ofynnes i pam ei bod hi'n sgrechian yn y nos mi ddywedon nhw eu bod nhw ddim wedi cymryd ei choes [brosthetig] hi i ffwrdd ers iddi fod yno. Mi oedd hi wedi bod yno ers pythefnos."
Cafodd nifer o argymhellion eu gwneud yn sgil yr ymchwiliad. Ond doedd y teulu ddim yn hapus gyda'r gofal y cafodd hi pan aeth hi nôl i'r ysbyty yng Nghastell Nedd Port Talbot ym mis Awst 2012 chwaith.
Cyn iddi farw mi gafodd hi ei throsglwyddo i Ysbyty Tywysoges Cymru. Yno mi gafodd ei theulu wybod ei bod nhw'n atal ei meddyginiaeth am ei bod hi'n marw o niwmonia.
Ond roedd profion post mortem yn dangos mai marw o drawiad y galon wnaeth hi a nad oedd arwyddion o afiechyd cronig ar ei hysgyfaint.
Mae heddlu'r de wedi arestio tri o nyrsys o'r ysbyty ym Mhen-y-bont ar amheuaeth o ffugio nodiadau meddygol. Mae'r tri wedi eu gwahardd o'u gwaith.
Ymateb y bwrdd iechyd
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Mae gennym ni nifer o fesurau rhagweithiol yn cael eu gweithredu er mwyn sicrhau uchafswm o ofal safon uchel i gleifion yn Ysbyty Tywysoges Cymru; ac yn barod mae'r gweithredoedd yma yn cynhyrchu canlyniadau positif.
"Mae'r ffigyrau marwolaethau mwyaf diweddar yn dangos bod yr ysbyty bellach yn unol gyda rhai eraill yng Nghymru. Yn ychwanegol mae'r gyfradd marwolaethau ar gyfer cleifion gyda chluniau wedi torri - oedd yn uwch na'r disgwyl - bellach yn cymharu'n dda gyda'r gorau yn y DU. Rydym hefyd wedi cael adborth bositif gan gleifion a pherthnasau.
"Un weithred allweddol yw'r lansiad o'r adolygiad allanol o safon a diogelwch gan yr Advancing Quality Alliance (AQuA). Cafodd ei gomisiynu'n gynharach y flwyddyn hon a byd dyn dechrau'r wythnos nesaf.
"Dydyn ni ddim yn llaesu'n dwylo beth bynnag ac rydym yn cefnogi adolygiad pellach ochr yn ochr ag adolygiad AQuA. Rydym yn benderfynol o barhau i wella safon y gofal ac fe fyddan ni'n gweithio'n agos gydag AQuA a'r adolygydd allanol i sicrhau bod pob cyfle posib i gyflawni hyn yn cael ei gymryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2013