Cyngor Sir Ddinbych i drafod cyllideb
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn trafod sut i arbed £8.5m mewn cyfarfod yn ddiweddarach.
Mae angen i gynghorwyr benderfynu ar sut i arbed y £2m olaf, wedi iddyn nhw benderfynu ar nifer o doriadau yn barod.
Mae'n bosib y bydd toriadau i gyllidebau gwasanaethau hamdden, ac fe all treth cyngor gynyddu o 3.5%.
Ond mae pryder y gall toriadau olygu y bydd rhaid i ganolfannau fel yr Heulfan yn y Rhyl neu'r Ganolfan Nova gau.
Colli gwasanaethau?
Bydd cynghorwyr Sir Ddinbych yn penderfynu ar nifer o doriadau posib, gan gynnwys lleihau'r cymhorthdal i nifer o wasanaethau hamdden fel sinema'r Scala ym Mhrestatyn, y Ganolfan Grefftau yn Rhuthun a newidiadau i'r ffordd mae pafiliwn Llangollen yn cael ei hariannu.
Bydd adolygiad o wasanaethau addysg arbenigol sy'n cael eu cynnal y tu allan i'r sir, a bydd rhai gwasanaethau plant yn cael eu haddasu.
Fe all treth cyngor gynyddu 3.5% hefyd.
Fel rhan o'r toriadau, fe all ymddiriedolaeth Hamdden Clwyd, sy'n gyfrifol am wasanaethau fel yr Heulfan yn y Rhyl, y Ganolfan Nova ym Mhrestatyn neu Canolfan Fowlio dan Do Cymru, golli rhan o'i chyllideb gan y cyngor.
Cafodd yr ymddiriedolaeth ddim er elw ei sefydlu yn 2001 gan Gyngor Sir Ddinbych i edrych ar ôl cyfleusterau hamdden ar eu rhan.
Nawr mae Hamdden Clwyd yn dweud bod toriad o £50,000 i'w cyllid yn golygu gall rhai gwasanaethau gau.
Maen nhw'n dweud y byddai'n effeithio ar 70 o swyddi llawn amser a 55 swydd tymhorol.
'Diffyg gweithred'
Ym mis Rhagfyr, dywedodd Hamdden Clwyd: "Yn anffodus iawn y bydd ein cwsmeriaid a chymunedau lleol yn debygol o ddioddef a swyddi yn cael eu colli oherwydd gweithred, neu ddiffyg gweithred Cyngor Sir Ddinbych."
Mewn ymateb, dywedodd y cyngor bod Hamdden Clwyd wedi cael gwybod am y toriadau posib.
"Yn amlwg, rydym yn drist bod Hamdden Clwyd wedi cyrraedd y sefyllfa yma, ac os ydyw'n mynd i'r wal, hoffwn i'r cwmni ddelio mewn ffordd deg ac effeithiol gyda'r gweithwyr a'r broses yma.
"Mae Hamdden Clwyd wedi cael mwy o gefnogaeth nac unrhyw gwmni tebyg i ddelio gyda'r lleihad mewn ffordd amserol.
"Mae wedi penderfynu peidio wynebu'r realiti o'r agenda sy'n wynebu pob gwasanaeth cyhoeddus ar hyn o bryd."
Bydd cabinet cyngor Sir Ddinbych yn cwrdd yn Rhuthun fore Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2013