Bygythiad i 100 o swyddi hamdden yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Fe allai dros 100 o swyddi gael eu colli yn Sir Ddinbych wedi i gynghorwyr benderfynu tynnu cyllid yn ôl o gwmni sy'n gyfrifol am rai o wasanaethau hamdden yn y sir.
Roedd dros 3,000 o bobl wedi ymuno a grŵp ar y we i geisio achub yr Heulfan yn y Rhyl, Y Ganolfan Nova a Chanolfan Bowlio dan do Gogledd Cymru, y ddau ym Mhrestatyn.
Dywedodd cynghorwyr nad oedden nhw am gymryd cyfrifoldeb am y safleoedd, a'u bod yn bwriadu rhoi gorau i roi arian i'r cwmni sy'n gyfrifol am y canolfannau o fis Ebrill ymlaen.
Dywedodd y cyngor bod cwmni Hamdden Clwyd, wedi cael gwybod am y toriadau dair blynedd yn ôl.
Mae'r BBC wedi gofyn i Hamdden Clwyd ymateb.
70 swydd llawn amser
Pe bai'r canolfannau yn cau ar Fawrth 31, byddai'n golygu colli 70 o swyddi llawn amser a 55 o swyddi tymhorol
Dywedodd Huw Jones, aelod y cabinet dros hamdden: "Mae'r cabinet wedi gwneud y penderfyniad i dynnu arian yn ôl o fis Ebrill ymlaen ac i beidio â chymryd cyfrifoldeb am y cwmni.
"Doedd dim opsiwn gan fod pryderon am y ffordd roedd y cwmni yn cael ei redeg.
"Mae'r cyfleusterau wedi bod mewn cyflwr gwael ac wedi eu rheoli yn wael ers nifer o flynyddoedd.
"Mae gan y cyngor gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod unrhyw gwmni sy'n rhedeg gwasanaethau ar ei rhan yn rhoi gwerth am arian a safonau da o wasanaeth a gofal i gwsmeriaid.
'Cydnabod problemau'
"Mae'r cwmni ei hun wedi cydnabod rhai o'r problemau yma ac wedi gofyn i'r awdurdod gymryd cyfrifoldeb am y cwmni fisoedd yn ôl.
"Fe wnaethon ni ystyried yr opsiwn yma, ond mae gormod o risg."
Dywedodd y cyngor y byddai gweddill y grant fyddai wedi cael ei roi i Hamdden Clwyd yn 2014/15, £200,00, yn cael ei ddefnyddio i hybu gwasanaethau hamdden, twristiaeth a digwyddiadau i'r arfordir.
Cyn y cyfarfod, roedd un gweithiwr wedi galw ar y cyngor i roi cymhorthdal lawn neu gymryd cyfrifoldeb am y canolfannau, gan fod y cyngor wedi sefydlu'r cwmni yn 2001.
Roedd rheolwr y ganolfan bowlio ac aelod o fwrdd Hamdden Clwyd, Laura Baldwin, hefyd wedi dechrau deiseb er mwyn ceisio achub y safleoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2013