Trethdalwyr Sir Ddinbych yn wynebu cynnydd o 3.5%

  • Cyhoeddwyd
Dinbych
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor sir Ddinbych yn bwriadu codi treth Cyngor o 3.5% o fis Ebrill

Mae'n debyg y bydd trethdalwyr Sir Ddinbych yn wynebu cynnydd o 3.5% yn eu treth cyngor y flwyddyn nesaf.

Oherwydd toriadau i'w chyllideb, mae'n rhaid i'r awdurdod ddarganfod £8.5m mewn arbedion gyfer 2014/15.

Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan gabinet y cyngor ddydd Iau, ac mae disgwyl iddyn nhw gael cymeradwyaeth lawn gan y cyngor llawn erbyn diwedd y mis.

Dywedodd aelod y cabinet dros gyllid, y cynghorydd Julian Thompson-Hill: "Rydym wedi derbyn setliad cyllideb dynn gan Lywodraeth Cymru - yr isaf yng Nghymru ar gyfer 2014/15.

"Bob tro rydym wedi ceisio amddiffyn gwasanaethau rheng flaen a swyddi, tra'n lleihau effaith cynnydd mewn treth cyngor ar ein trigolion.

Ychwanegodd: "Byddwn yn parhau i adolygu'r holl wasanaethau er mwyn gweld os oes modd bod yn fwy effeithlon, gan gynnal y gwasanaethau gorau posibl ar gyfer pobl sir Ddinbych."

Ers mis Medi, mae'r cyngor wedi trafod nifer o syniadau i geisio darganfod arbedion o £8.5m.

Ddydd Mawrth, dywedodd y cyngor y byddai gwasanaethau hamdden yn y sir yn wynebu toriadau.

Bydd y cynnig yn mynd o flaen cyfarfod o'r Cyngor Sir lawn ar Ddydd Llun, Ionawr 27ain.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol