Atyniadau hamdden yn dod i ben yn Sir Ddinbych?

  • Cyhoeddwyd
Heulfan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyngor nad oedden nhw am gymryd cyfrifoldeb am y cyfleusterau hamdden

Mae ymddiriedolaeth Hamdden Clwyd wedi rhybuddio y gallai atyniadau hamdden ddod i ben wedi i gynghorwyr benderfynu tynnu cyllid yn ôl.

Yr atyniadau yw'r Heulfan yn y Rhyl a'r Ganolfan Nova a Chanolfan Bowlio dan do Gogledd Cymru ym Mhrestatyn.

Roedd cynghorwyr wedi penderfynu rhoi'r gorau i ariannu o fis Ebrill ymlaen.

Pe bai'r canolfannau yn cau ar Fawrth 31, byddai'n golygu colli 70 o swyddi llawn amser a 55 o swyddi tymhorol.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth: "Oherwydd penderfyniad annisgwyl y cyngor rhaid i'n cyfarwyddwyr ystyried effeithiau'r penderfyniad.

"Cyn argymhelliad i ddirwyn i ben neu beidio rhaid i'r cyngor roi manylion am warant cronfa bensiwn.

"Bydd datganiad arall yn y man."

'Dim opsiwn'

Dywedodd Huw Jones, aelod y cabinet dros hamdden: "Mae'r cabinet wedi gwneud y penderfyniad i dynnu arian yn ôl o fis Ebrill ymlaen ac i beidio â chymryd cyfrifoldeb am y cwmni.

"Doedd dim opsiwn gan fod pryderon am y ffordd roedd y cwmni yn cael ei redeg.

"Mae'r cyfleusterau wedi bod mewn cyflwr gwael ac wedi eu rheoli yn wael ers nifer o flynyddoedd.

"Mae gan y cyngor gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod unrhyw gwmni sy'n rhedeg gwasanaethau ar ei rhan yn rhoi gwerth am arian a safonau da o wasanaeth a gofal i gwsmeriaid."