Thomas Doran: Dieuog
- Cyhoeddwyd
Mae'r barnwr yn achos Thomas Doran wedi gorchymyn ei fod yn cael ei ddyfarnu'n ddieuog.
Dywedodd nad oedd yr erlyniad wedi cyflwyno tystiolaeth yn erbyn Mr Doran, 36, o Faes Carafannau Shire Newton, Caerdydd.
Fe gafodd y cyhuddiad, sef o orfodi rhywun i weithio yn erbyn ei ewyllys, ei roi gerbron Mr Doran ac fe blediodd yn ddieuog.
Bydd ei dad, Daniel Doran, 66, a'r frawd David Doran, 42, o Lanbedr Gwynllŵg yn ymddangos o flaen Llys y Goron, Caerdydd ar Ionawr 30.
Maen nhw'n wynebu'r un cyhuddiad ag yr oedd Thomas Doran, yn ogystal â chyhuddiadau o gam-garcharu a chynllwynio i gadw person mewn caethwasiaeth.
Cafodd y tri dyn eu harestio a'u cyhuddo yn dilyn cyrchoedd gan yr heddlu ar eu fferm ger Casnewydd ym mis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2013