Leanne Wood am sefyll 'ddwywaith'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud y bydd "mwy na thebyg" yn sefyll fel ymgeisydd etholaethol a rhanbarthol yn etholiad nesaf y Cynulliad os fydd ganddi'r hawl i wneud hynny.
Roedd Leanne Wood yn siarad ar raglen Sunday Politics ar BBC Cymru.
Mae hi'n bwriadu sefyll yn etholaeth Rhondda yn 2016.
O dan y drefn bresennol nid oes ganddi'r hawl i sefyll ar y rhestr ranbarthol ar gyfer Canol De Cymru ar yr un pryd.
Ond mae llywodraeth y DU yn cynllunio i godi'r gwaharddiad yna fel rhan o Fesur Cymru sy'n mynd ar ei daith drwy'r senedd ar hyn o bryd.
O'r 60 aelod yn y Cynulliad, mae 40 yn cael eu hethol mewn etholaethau penodol ac 20 o'r rhestrau rhanbarthol.
'Sefyll i ennill'
Pan ofynnwyd i Ms Wood os fyddai'n sefyll mewn rhanbarth yn ogystal â'r Rhondda, dywedodd:
"Byddaf, mwy na thebyg, os fydd y sefyllfa yn newid.
"Ond rwy'n credu bod gwleidyddion yn siarad a chanolbwyntio ar drefniadau etholiadol yn rhywbeth sydd ddim yn apelio at bleidleiswyr.
"Mae symudiadau ar droed i godi'r gwaharddiad, ond dydyn ni ddim yn gwybod o hyd beth fydd y sefyllfa yn 2016 a naill ffordd neu'r llall fe fyddaf yn sefyll yn y Rhondda, ac yn sefyll i ennill yr etholaeth."
Pan gyflwynwyd y gwaharddiad gan lywodraeth Lafur y DU roedd cryn wrthwynebiad gan y pleidiau eraill ar y pryd.
Refferendwm
Gallai gael ei wyrdroi fel rhan o Fesur Cymru, fyddai hefyd yn arwain at refferendwm ar ddatganoli peth rheolaeth dros dreth incwm i Fae Caerdydd.
Roedd Ms Wood yn cytuno'n rhannol gyda'r prif weinidog Carwyn Jones gan ddweud bod cyfyngiadau ar allu Llywodraeth Cymru i amrywio'r bandiau unigol o dreth incwm yn golygu y bydd y pwerau yn "ddiwerth".
Gwrthododd ddweud os fyddai Plaid Cymru yn mynnu cael refferendwm os fydd angen trafod clymbleidio yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2016.
Bu hefyd yn trafod adroddiad Comisiwn Williams oedd yn argymell ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru, gan ddweud nad oedd ei phlaid wedi cael cyfle i drafod yr adroddiad yn llawn hyd yma.