Stormydd: £5m o ddifrod yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y dŵr dros waliau'r cei yng Nghonwy ar ddiwedd 2013

Bydd gwaith trwsio ar amddiffynfeydd môr yng Nghonwy yn costio dros £5 miliwn, yn ôl y cyngor sir.

Dywedodd Cyngor Sir Conwy bod peiriannwyr wedi archwilio'r amddiffynfeydd a'r traethau wedi'r stormydd a darodd ym mis Rhagfyr a Ionawr.

Fe wnaeth gwyntoedd cryfion a glaw trwm achosi llifogydd a difrod sylweddol yng Nghonwy.

Dywedodd y cyngor eu bod wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am "fwy na £5m" ddydd Gwener diwethaf.

Mae nifer o gynghorau wedi bod yn cyfri cost y difrod wedi'r tywydd diweddar.

Yn Aberystwyth, mae disgwyl i waith trwsio ar y promenâd gostio £1.5m, ond fe all y gost derfynol fod yn uwch.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Deganwy yn Sir Conwy ei effeithio gan lifogydd ym mis Rhagfyr 2013

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Mae'r amcangyfrif o'r gost yn ymwneud â'r gwaith o lanhau a thrwsio asedau yn £1.5 miliwn o leiaf.

"Rydym yn y broses o gasglu'r wybodaeth lawn am y costau ac fe allai'r ffigwr terfynol fod yn fwy na hynny pan fydd y darlun llawn yn glir."

Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, wedi cyhoeddi adolygiad o'r stormydd wnaeth achosi llifogydd yn sawl rhan o Gymru.

Dywedodd y byddai adolygiad brys yn cael ei gwblhau cyn diwedd mis Ionawr, cyn dechrau gwaith ehangach i geisio deall ymateb awdurdodau a sut wnaeth amddiffynfeydd berfformio.

Mae disgwyl cael canlyniadau'r adolygiad yma erbyn diwedd mis Ebrill.

Y bwriad yw gweld pa wersi sydd i'w dysgu a pharatoi yn well at y dyfodol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol