Cost trwsio promenâd dros £1.5m

  • Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o gryfhau'r amddiffynfeydd eisoes wedi dechrau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith o gryfhau'r amddiffynfeydd eisoes wedi dechrau

Bydd yn costio dros £1.5 miliwn i drwsio'r difrod i bromenâd Aberystwyth yn dilyn y stormydd yn gynharach ym mis Ionawr.

Dywed Cyngor Ceredigion y gallai'r gost derfynol fod yn uwch wrth iddyn nhw baratoi am lanw uchel iawn arall ar Chwefror 2.

Mae'r cyngor bellach mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyflwyno cais am arian i gynorthwyo gyda'r gwaith atgyweirio.

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd gweinidogion Cymru y byddai £2 filiwn yn ychwanegol ar gael i drwsio amddiffynfeydd llifogydd a ddifrodwyd gan y stormydd.

Roedd Aberystwyth yn un o'r trefi a ddioddefodd waethaf gan law trwm a gwyntoedd cryfion a ddaeth rhwng Ionawr 3 a 6.

Fe gafodd lloches ar y prom, sy'n adeilad rhestredig, ei ddifrodi'n sylweddol wedi i donnau ddinistrio seiliau'r strwythur.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Daeth dros 200 o wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda'r gwaith clirio

Gwirfoddolwyr

Ar Ionawr 11 daeth dros 200 o wirfoddolwyr gyda bwcedi a rhawiau er mwyn cynorthwyo gyda'r gwaith o lanhau'r prom.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Mae'r amcangyfrif o'r gost yn ymwneud â'r gwaith o lanhau a thrwsio asedau yn £1.5 miliwn o leiaf.

"Rydym yn y broses o gasglu'r wybodaeth lawn am y costau ac fe allai'r ffigwr terfynol fod yn fwy na hynny pan fydd y darlun llawn yn glir."

Ychwanegodd y llefarydd y gallai'r awdurdod geisio am arian o ffynonellau Llywodraeth Cymru, ond y byddai'n rhaid rhoi swm cyfatebol o goffrau'r cyngor ei hun.

Yn y cyfamser mae'r gwaith ar y promenâd wedi dechrau, ond mae gweithwyr yn ceisio cryfhau'r amddiffynfeydd yng nghanol pryderon y bydd llanw uchel iawn arall ar Chwefror 2 yn achosi mwy o ddifrod.

Yn ôl y rhagolygon fe allai llanw o hyd at 25 troedfedd (7.8metr) daro'r ardal yn gynnar ym mis Chwefror.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol