Cyngor Sir Ddinbych o blaid £8.5m o arbedion

  • Cyhoeddwyd
Arian
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynghorwyr wedi penderfynu ar £6.4m o doriadau yn barod ond roedd angen arbed £2m ychwanegol

Mae un arall o gynghorau Cymru wedi cymeradwyo toriadau gwerth miliynau o bunnoedd wrth geisio cadw dau ben llinyn ynghyd.

Cytunodd cyfarfod llawn o Gyngor Sir Ddinbych ar werth £8.5m o arbedion.

Dyma'r awdurdod lleol diweddara' yng Nghymru sydd wedi gorfod adolygu eu gwariant wedi iddyn nhw dderbyn 4.6% yn llai o arian gan y llywodraeth.

Roedd y cyngor wedi dweud eu bod wedi cwrdd â'r rhan fwya' o'u targedau dros y misoedd diwethaf ond bod angen arbed £2m yn rhagor.

Mae'r awdurdod eisoes wedi cytuno mewn egwyddor i godi treth cyngor 3.5%.

'Ateb dros dro'

Yn ôl yr awdurdod, roedd adroddiad ym mis Medi wedi dangos ble y gellid gwneud £1.7m o arbedion, gydag adroddiad arall ym mis Rhagfyr yn dangos £4.7m pellach.

Mae'r cyfanswm £6.4m yn cynnwys cwtogi ar gyllid cyfleusterau hamdden, ad-drefnu ysgolion, llai o gerbydau cyngor ac ailstrwythuro rheolwyr mewn rhai adrannau.

Wedi i'r cyngor benderfynu rhoi'r gorau i gefnogi cwmni Hamdden Clwyd, sydd wedi bod yn gyfrifol am dair o ganolfannau hamdden y sir, gan gynnwys Yr Heulfan yn Y Rhyl - mae'r safleoedd bellach wedi'u trosglwyddo'n ôl i ofal yr awdurdod.

Roedd yr adroddiad gerbron y cyngor llawn ddydd Llun yn dweud bod angen defnyddio £500,000 o gynilion y cyngor er mwyn helpu i leddfu'r problemau.

'Cynilion'

Dywedodd yr adroddiad: "Dyw defnyddio'r cynilion ddim yn datrys y mater - mae'n fater o gael ateb dros dro i ddiffyg parhaol yng nghyllid y cyngor, ac felly'n symud y broblem ymlaen at rywbryd arall.

"Mae pwysigrwydd cael arian wrth gefn wedi dod i'r amlwg dros y flwyddyn ddiwetha' gyda'r llifogydd mawr yn Rhuthun, Llanelwy a'r Rhyl, a phroblemau eira ar draws y sir."

Mewn datganiad i'r pwyllgor, dywedodd y prif swyddog cyllid: "Dyw defnyddio cynilion ddim yn ddelfrydol, ond mae'n rhoi rhywfaint o amser i'r cyngor ddod o hyd i arbedion pellach ar gyfer 2015/16.

"Bydd yna'n dal ddigon o gynilion i ddelio gyda sefyllfaoedd rhesymol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol