Safonau dysgu yn 'destun siom', yn ôl Estyn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ann Keane

Mae angen gwella'r safon dysgu mewn ysgolion cyn y gellir disgwyl gweld safonau yn codi, yn ôl prif arolygydd ysgolion Cymru.

Wrth gyhoeddi adroddiad blynyddol Estyn, sy'n dangos fod safonau mewn ysgolion heb wella ers y llynedd, dywedodd Ann Keane fod rhai o'r canlyniadau yn "siomedig".

Yn ôl yr adroddiad mae safonau mewn ysgolion cynradd yn debyg iawn i sut oedden nhw'r llynedd, ond mae cyfradd yr ysgolion uwchradd sy'n "anfoddhaol" wedi cynyddu.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud cynnydd a'u bod yn y broses o greu system addysg sydd yn gweithio ar gyfer pobl ifanc.

'Testun siom'

Safonau dysgu sy'n achosi'r pryder mwyaf i Estyn.

Mae'r adroddiad yn dweud: "Mae ansawdd yr addysgu mewn ysgol yn cael effaith uniongyrchol ar y safonau y bydd disgyblion yn eu cyflawni. Hwn yw'r ffactor unigol pwysicaf o ran helpu disgyblion i gyflawni'u potensial."

Yn ôl y Prif Arolygydd Ann Keane, dyw'r ansawdd yma ddim bob tro'n cael ei gyrraedd.

"Rydym wedi bod yn defnyddio'r un fframwaith yn ystod arolygiadau dros y tair blynedd diwethaf," meddai, "ac roeddwn wedi gobeithio gweld gwelliannau mewn perfformiad erbyn hyn."

"Mae'n destun siom mai lleiafrif bach o hyd yw'r ysgolion hynny sy'n rhagorol, a bod angen arolygiadau dilynol ar gymaint o ysgolion uwchradd. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn dychwelyd i dros ddwy ran o dair o ysgolion uwchradd ac oddeutu hanner ysgolion cynradd i gynnal ymweliadau dilynol.

"Yr hyn y mae angen i ysgolion a'r sector ôl-16 ei wella yw ansawdd yr addysgu, asesu, llythrennedd a rhifedd, hunanarfarnu a Chymraeg ail iaith. Rwy'n gwybod y gellir gwneud gwelliant ac y gellir cyflawni rhagoriaeth, fel y gwelsom yn y llu o astudiaethau achos a ddyfynnir yn yr adroddiad blynyddol.

"Fodd bynnag, mae'r canlyniadau PISA siomedig yn awgrymu nad yw datblygiad proffesiynol athrawon ar hyd a lled Cymru wedi bod mor effeithiol ag y bu mewn gwledydd eraill. Nid ydym eto ychwaith wedi gweld effaith gynaledig yn sgil cyflwyno polisïau a mentrau diweddar. Mae angen cyflymu gwelliant ac mae angen i arweinwyr mewn ysgolion ddatblygu yr un mor gyflym â'r gorau, yng Nghymru a thu hwnt."

15 mlynedd

Mae'r wrthblaid yn y Cynulliad yn honni bod yr adroddiad yn dangos fod Llafur wedi methu â chodi safonau ers datganoli.

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns: "Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am addysg yng Nghymru ers 15 mlynedd, ac eto mae safonau'n aros yn eu hunfan, gyda Chymru ar waelod tablau cynghrair y DU.

"Mae'r adroddiad hwn yn enghraifft ddamniol arall o Lafur yn camreoli system addysg Cymru, lle mae chwarter yr ysgolion uwchradd yn anfoddhaol a dwy ran o dair angen arolygiadau pellach."

Ychwanegodd Ms Burns: "Mae angen i weinidogion Llafur fynd i'r afael â'r ffaith bod ysgolion Cymru'n cael eu tanariannu gan dorri biwrocratiaeth awdurdodau addysg leol, sydd yn mynd â thraean o gyllideb ysgolion a rhyddhau athrawon i ddysgu."

'Athrawon gwych'

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas, mai cael athrawon "gwych" oedd yn allweddol wrth geisio codi safonau.

"Cred Plaid Cymru mai'r ffordd orau i godi cyrhaeddiad pob plentyn yw trwy ymyriad cynnar - athrawon a staff yn gweithio gyda phob plentyn yn unigol, gan fonitro datblygiad ac ymyrryd pan fod plentyn angen help," meddai.

Ychwanegodd Mr Thomas y byddai llywodraeth dan arweiniad ei blaid ef yn "cyflwyno rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i athrawon, prifathrawon a staff cynnal newydd a chyfredol ar ymyriad cynnar er mwyn gwella llythrennedd, rhifedd, presenoldeb ac ymddygiad er mwyn codi cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion".

Yn ôl Aled Roberts AC, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar addysg, dyw hi ddim yn ymddangos fod gwersi yn cael eu dysgu a chynigiodd gwestiwn brys i'w ofyn yn y Siambr ddydd Mawrth.

"Roedd adroddiad Estyn y llynedd yn tynnu sylw at nifer o fethiannau yn y system, ond roedd hefyd yn cynnwys enghreifftiau o arfer da fel y gallai pob ysgol weithio ar welliannau," meddai.

"Mae'r adroddiad yn dangos faint o wahaniaeth gall athrawon da ac arweiniad cadarn ei wneud i ysgol, ond mae hefyd yn dweud nad oes digon o gyfleoedd i benaethiaid a staff gael yr hyfforddiant angenrheidiol i wella'u sgiliau arwain ac mae hyn yn rhywbeth bydda' i'n trafod gyda'r Gweinidog."

'Gwneud cynnydd'

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dadlau bod cynnydd eisoes wedi'i wneud a bod y gwahaniaeth mewn safonau dysgu Lloegr a Chymru yn lleihau.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym wedi bod yn onest am yr heriau sy'n wynebu ein system addysg ac mae'n amlwg o'r adroddiad hwn fod yn rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i wella meysydd allweddol megis addysgu, asesu a llythrennedd a rhifedd.

"Bydd adeiladu system addysg ragorol, sef uchelgais pawb yn y sector, yn cymryd amser, ond nid ydym yn llaesu dwylo ac rydym yn gwneud cynnydd.

"Rydym yn gwybod bod llawer o arferion da ledled Cymru ac, fel y dangosodd canlyniadau TGAU y llynedd, rydym yn cau'r bwlch rhwng Cymru a Lloegr pan ddaw'n fater o berfformiad.

"Rydym yn benderfynol o roi'r polisïau a'r mentrau iawn yn eu lle i greu system addysg sy'n gweithio er lles ein pobl ifanc."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol