Costau difrod llifogydd yn filiynau

  • Cyhoeddwyd
Llanw UchelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi achosodd y llanw uchel broblemau ar draws Cymru

Mae disgwyl y bydd angen miliynau o bunnau i glirio a glanhau'r difrod achoswyd gan y stormydd a'r llanw uchel diweddar.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn casglu gwybodaeth am effeithiau'r tywydd garw ddechrau mis Ionawr a Rhagfyr diwethaf, ac yn edrych ar amcangyfrifon y cynghorau.

MI fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ddydd Gwener, ond does dim dyddiad eto pryd fydd y manylion yn cael eu cyhoeddi neu pryd fydd y Llywodraeth yn ymateb.

Tywydd garw

Yn ôl y ffigyrau sydd wedi'u casglu gan BBC Cymru, mi fydd angen bron £8 miliwn o bunnau i atgyweirio a glanhau difrod y stormydd.

Mae hyn bedair gwaith yn fwy na'r £2 filiwn sydd wedi'i glustnodi gan Lywodraeth Cymru hyd yma.

Roedd tywydd gwael a llanw uchel wedi taro arfordir Cymru ym mis Rhagfyr a dechrau Ionawr, gyda chyflymder gwynt o 87 milltir yr awr wedi'i gofnodi yng Nghonwy ddau ddiwrnod cyn y Nadolig.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Deganwy yn Sir Conwy ei effeithio gan lifogydd ym mis Rhagfyr 2013

Galwodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, am arolwg i asesu effaith y difrod ar gannoedd o filltiroedd o arfordir.

Fe dderbyniodd BBC Cymru ymateb gan chwe awdurdod lleol gafodd eu heffeithio gan y stormydd - pob un eisoes yn gwario degau o filoedd o bunnau'r flwyddyn ar amddiffyn ardaloedd arfordirol rhag erydu a llifogydd.

O'r ardaloedd sydd wedi cael eu taro waethaf, mae Cyngor Conwy yn amcangyfrif y bydd swm y difrod yn £5m.

Mi fydd Sir Benfro angen gwario £500,000, ond mae Sir Gâr yn wynebu bil atgyweirio cymharol fychan o £28,000.

Mae cynghorwyr Gwynedd yn credu y bydd y bil tua £800,000 ac Ynys Môn yn amcangyfrif £100,000.

Ceredigion angen £1.5m a mwy

Yng Ngheredigion, lle cafodd cannoedd o fyfyrwyr a thrigolion oedd yn byw o flaen y promenâd yn Aberystwyth eu symud o'u cartrefi yn ystod stormydd dechrau Ionawr, mae'r cyngor yn dweud y bydd yn rhaid gwario o leiaf £1.5m.

Mae nhw hefyd yn cynllunio amddiffynfeydd arfordirol newydd i Aberystwyth, allai gostio miliynnau o bunnau, ac fe fydd yn gofyn i Lywodraeth Cymru am gymorth.

Dywedodd Rhodri Llwyd, sy'n beiriannydd arfordir ac afonydd i Gyngor Ceredigion, ei fod yn gobeithio y byddai cynllun manwl ar gyfer Aberystwyth yn barod o fewn 12 mis.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd difrod mawr i'r prom yn Aberystwyth

Fe allai opsiynnau gynnwys morglawdd neu rîff allan yn y môr, neu godi uchder wal y promenâd.

Mi fydd y gost derfynol yn dibynnu ar ba opsiwn fydd yn cael ei ddewis a be mae'r archwiliadau yn eu dangos, ond fe allai bod rhwng £10m ac £20m.

Dywedodd Mr Llwyd: "Dwi ddim yn credu y byddai mur cynhaliol y promenâd yn ddigon i roi'r lefel o amddiffynfa sydd ei angen ar gyfer y dyfodol, ac felly ... mae'n rhaid i rywbeth gael ei wneud yma."

Y stormydd gwaethaf ers 20 mlynedd

Fe fydd adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei roi i'r Gweinidog ddydd Gwener.

Mi fydd cam cyntaf yr adroddiad yn edrych ar effaith uniongyrchol y llifogydd, tra bod yr ail gam yn edrych ar y gwersi y gellir eu dysgu, a rheoli risg llifogydd yn yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio.

Mae Mr Davies wedi dweud bod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Prydain ynglyn â chais am arian i Gronfa Nawdd Argyfwng yr UE, gafodd ei sefydlu'n wreiddiol i helpu'r rheiny gafodd eu heffeithio gan y llifogydd yn Nwyrain Ewrop yn 2002.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol