Abertawe'n troi'n Efrog Newydd ar gyfer ffilm Thomas

  • Cyhoeddwyd
Neuadd y ddinas, Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Neuadd y Ddinas, Abertawe, yn cael ei haddasu i ymddangos yn y ffilm newydd am fywyd Dylan Thomas

Bydd ystafelloedd hanesyddol yn Neuadd y ddinas, Abertawe yn cael eu troi'n rannau o westy eiconig o Efrog Newydd ar gyfer ffilm am Dylan Thomas.

Fe fydd Lolfa'r Arglwydd Faer ac ystafell yr Arglwydd Faeres yr adeilad rhestredig yn cael eu defnyddio yn y ffilm Set Fire to the Stars, sy'n cynnwys yr actor Elijah Wood.

Fe fydd y ddwy ystafell yn ymddangos fel ystafell wely ac ystafell 'molchi Gwesty'r Chelsea.

Roedd y bardd, Dylan Thomas, yn aros yn y gwesty - gafodd ei anfarwoli mewn cân gan Leonard Cohen - yn Efrog Newydd pan fu farw ym mis Tachwedd, 1953.

Fe fydd y ffilm newydd yn edrych ar y berthynas rhwng Thomas a John Malcolm Brinnin, bardd arall ddaeth o Gymru i America a fu'n cadw cwmni i Thomas ar ei deithiau llyfr.

Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Elijah Wood fydd yn actio rhan y bardd a ffrind Dylan, John Malcolm Brinnin, yn y ffilm

Elijah Wood, fu'n chwarae rhan Frodo Baggins yn ffilmiau Lord of the Rings fydd yn actio rhan Brinnin, tra bod Celyn Jones, sydd wedi ymddangos mewn cyfresi teledu fel Above Suspicion a Shameless, fydd yn chwarae rôl Thomas.

Fe fydd siambr y cyngor yn Neuadd y Ddinas hefyd yn cael ei droi'n rhan o Brifysgol Harvard yn Boston - lleoliad lle y bu Thomas yn perfformio yn y 1950au.

Lleoliad arall yn Abertawe fydd yn cael ei ddefnyddio yw Plasdy'r Arglwydd Faer yn Ffynone, fydd yn cael ei drosi'n glwb o'r cyfnod yn Efrog Newydd.

Fe fydd y ffilm hefyd yn dangos rhai o'r llefydd lle bu Thomas yn ymweld â nhw a rhai o'r strydoedd yn Abertawe yn cael eu troi'n olygfeydd o'r ddinas Americanaidd.

Dywedodd y cynghorydd, Nick Bradley: "Mae Mal Pope ac Ed Thomas, cynllunydd y cynhyrchiad a chyd-gynhyrchydd Da Vinci's Demons wedi bod yn allweddol wrth ddod â'r ffilm hon i Abertawe."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 2014 yn flwyddyn o ddathlu canmlwyddiant genedigaeth y bardd, Dylan Thomas

Mae'r aelod cabinet dros adfywio yn dweud eu bod wedi sefydlu un pwynt cyswllt ychydig flynyddoedd yn ôl i ddelio gydag ymholiadau ffilmio ac er mwyn hybu'r ddinas fel lleoliad ffilmio addas.

"Mae'n dull ni hefyd yn golygu ein bod yn llwyddiannus wrth sicrhau criwiau ffilmio, yn arbennig pan dyw'r lleoliad ddim yn angenrheidiol yn unigryw a'n bod mewn cystadleuaeth â llefydd eraill.

"Rydym yn cydweithio hefyd gyda Chomisiwn Ffilm Cymru i ddenu ffilmiau i'r ddinas a chynnig gwybodaeth lleol, gynhwysfawr ar leoliadau, adnoddau a gwasanaethau.

"Mae hefyd yn hynod briodol, ym mlwyddyn dathlu canmlwyddiant Dylan Thomas, bod ffilm am hanes ei fywyd yn America yn cael ei ffilmio yma, yn ei dref enedigol, Abertawe."