Ysgrifennydd Iechyd yn galw am ymchwiliad iechyd

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Hunt
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Blaid Geidwadol yn feirniadol o sut mae Llafur yn rhedeg y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth San Steffan wedi galw am ymchwiliad i gyfraddau marwolaethau yng Nghymru.

Yn ystod dadl am y Gwasanaeth Iechyd ddydd Mercher dywedodd Jeremy Hunt fod cleifion yng Nghymru'n dioddef oherwydd bod Llafur wedi gwrthod cynnal ymchwiliad o'r fath.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi galw am ymchwiliad droeon.

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod cleifion yng Nghymru'n derbyn gofal rhagorol yn y Gwasanaeth Iechyd.

'Hunanfodlonrwydd'

Fe wnaeth Mr Hunt ei sylwadau yn ystod dadl yr oedd Llafur wedi ei galw.

Dywedodd: "Enghraifft arall o hunanfodlonrwydd yw'r syniad sydd gan Lafur, a hyn bron i flwyddyn ar ol Adroddiad Francis, fod gwersi Canol Sir Stafford yn dod i ben ar y ffin rhwng Lloegr a Chymru, fod gan Gymru ddim byd i'w ddysgu ac nad oes angen adroddiad fel un Keogh ar gyfraddau marwolaethau uchel.

"Mae hyn yn rhywbeth mae Llafur Cymru wedi gwrthod ei wneud yn gyson.

"Ond mae pobl yn ysbytai Cymru yn dioddef oherwydd bod Gwasanaeth Iechyd Cymru wedi gwrthod wynebu'r gwir ar fater cyfraddau marwolaethau."

Mewn colofn yn y Daily Telegraph cyhuddodd Lafur o "wrthod yr agenda o dryloywder sydd wedi cael ei chofleidio yn Lloegr".

Cafodd ymchwiliad Keogh ei sefydlu gan y Prif Weinidog David Cameron yn dilyn helyntion yn Ysbyty Stafford, lle bu farw nifer o gleifion.

Edrychodd Bruce Keogh ar 14 o ysbytai oedd yn dangos arwyddion fod rhywbeth yn bod a chasglodd fod angen cyflwyno mesurau arbennig yn 14 ohonyn nhw.

'Gofal arbennig'

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Mae pobl yng Nghymru yn derbyn gofal arbennig gan y Gwasanaeth Iechyd, yr hyn sy'n cael ei ddangos dro ar ôl tro gan arolygon annibynnol fel Adolygiad Cenedlaethol i Gymru.

"Pan mae rhywbeth yn codi, rydym yn gweithredu er mwyn ei gywiro, er enghraifft gyda'r adolygiad annibynnol i ysbytai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

"Dydyn ni ddim yn cuddio tu ôl i ymchwiliadau hir a chostus fyddai'n denu adnoddau a sylw i ffwrdd o ofal cleifion. A dydyn ni ddim yn chwilio am rywun arall i'w feio fel mae Jeremy Hunt.

"Mae'r ymosodiad yma'n ymgais anobeithiol i ddenu sylw oddi ar stiwardiaeth ddifrifol y Torïaid o'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr. Dylai Mr Hunt fwrw 'mlaen gyda'i swydd."