Swyddi am fynd mewn canolfanau hamdden yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Heulfan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Canolfan Heulfan yn y Rhyl rwan yn cau meddai Clwyd Hamdden

Dyw trafodaethau i arbed swyddi mewn tair canolfan hamdden yn Sir Ddinbych ddim wedi gweithio.

Mae Clwyd Hamdden wedi dweud bod yn rhaid iddyn nhw gau Canolfan Heulfan yn y Rhyl, y Ganolfan Nova ym Mhrestatyn a'r Ganolfan Bowlio dan dô am resymau ariannol.

Roedd yr ymddiriedolaeth sydd wedi bod yn rhedeg y canolfanau yn gobeithio byddai Cyngor Dinbych yn medru gwneud y gwaith yma. Byddai 70 o swyddi parhaol a 55 o swyddi tymhorol wedi eu harbed trwy wneud hynny.

Ond mewn datganiad ddydd Gwener mae Clwyd Hamdden yn dweud nad oes yna ddatrysiad wedi ei wneud.

Cafodd Clwyd Hamdden ei sefydlu gan y cyngor yn 2001 i edrych ar ôl rhai cyfleusterau hamdden. Ond mae'r cyngor wedi tynnu £200,000 o arian yn ôl.

Mewn datganiad mae Clwyd Hamdden yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis rwan ond cau'r canolfanau.

"Mae'r cyfarwyddwyr yn drist eu bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad yma ac yn ddiolchgar i'r holl staff ymroddedig am eu hymdrechion a'r holl gwsmeriaid ffyddlon am ein cefnogi yn ystod y misoedd caled yma."

Dyw'r cyngor ddim wedi ymateb i ddatganiad diweddaraf Clwyd Hamdden. Ond yn y gorffennol maen nhw wedi dweud nad ydyn nhw medru perchnogi'r cwmni am fod ganddyn nhw bryderon ynglŷn â cytundebau staff ac arian wrth gefn wrth ddod a'r cwmni i ben.