Ffrae atyniadau hamdden yn parhau

  • Cyhoeddwyd
Heulfan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyngor y dylai Hamdden Clwyd gyfathrebu'n uniongyrchol â nhw yn hytrach na thrwy'r cyfryngau

Mae'r ffrae am ddyfodol atyniadau i dwristiaid yn Sir Ddinbych wedi codi'i ben eto yn dilyn datganiad i'r wasg cwmni Hamdden Clwyd.

Dyma'r cwmni sydd wedi bod yn rhedeg yr Heulfan yn Y Rhyl, Canolfan Nova ym Mhrestatyn a Chanolfan Fowlio Dan Do Gogledd Cymru.

Yn gynharach yn y mis fe benderfynodd Cyngor Sir Ddinbych dynnu'r cyllid yn ôl, gan beryglu dyfodol y tair canolfan ynghyd â dros 100 o swyddi.

'Trosglwyddo asedau'

Ddydd Iau cyhoeddodd Hamdden Clwyd ddatganiad oedd yn dweud: "Ar ôl darllen sylwadau a gyhoeddwyd gan Hywyn Williams (o'r cyngor sir) a Chris Ruane (Aelod Seneddol lleol) a gwrando ar farn trigolion, cwsmeriaid, staff, undebau, busnesau lleol a chynghorwyr, mae cyfarwyddwyr Hamdden Clwyd wedi cytuno i gyflwyno'r cynnig yma i Gyngor Sir Ddinbych.

"Bydd Hamdden Clwyd yn trosglwyddo i'r cyngor y prydlesi ar yr Heulfan, Canolfan Nova a Chanolfan Fowlio Gogledd Cymru ar Chwefror 1, 2014 ynghyd â throsglwyddo holl staff y safleoedd heblaw'r rhai sydd eu hangen i ddirwyn y cwmni i ben.

"Mae'r cwmni hefyd yn barod i drosglwyddo i'r cyngor holl asedau ac offer y cwmni ynghyd â swm o £75,000 gydag ymrwymiad i ddarparu arian pellach os bydd ar gael wedi hynny.

"Bydd hyn yn caniatáu i'r adnoddau aros ar agor, sicrhau swyddi'r staff a rhoi'r hyder i gwsmeriaid i barhau i ddefnyddio'r adnoddau, ac yn caniatáu i'r cyngor benderfynu ar gyfeiriad yr adnoddau twristiaeth a hamdden yn nhrefi'r Rhyl a Phrestatyn.

"Mae'r cwmni yn fodlon gweithio gyda'r Cyngor ac i gynorthwyo mewn unrhyw fodd posib drwy'r cyfnod trosglwyddo a thu hwnt."

'Pryder pellach'

Wedyn dywedodd datganiad Cyngor Sir Ddinbych: "Unwaith eto mae Hamdden Clwyd wedi dewis cyfathrebu drwy'r cyfryngau ac mae amseru'r datganiad unwaith eto yn anffodus gan nad yw'n rhoi cyfle i'r cyngor ystyried y cynnig - dyna fyddai wedi bod er lles y cyhoedd.

"Mae gweithredu yn y modd yma ond yn achosi pryder pellach a diangen i'n trigolion.

"Fe fyddwn yn ystyried ein hymateb yn y bore.

"Fe fyddai'n well i'r cwmni gyfathrebu yn uniongyrchol ac yn ffurfiol gyda ni, yn enwedig gan fod y datganiad yn ymwneud â dyfodol eu gweithlu."