Sied Dylan Thomas ar daith fel rhan o ddathliadau 100
- Cyhoeddwyd
Bydd copi o sied 'sgwennu Dylan Thomas yn teithio o amgylch Prydain yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni'r bardd.
Cafodd y sied ei hadeiladu fis diwethaf.
Gall ymwelwyr ddyfeisio gair newydd i'w gyhoeddi yng 'Ngeiriadur Dylan', i anrhydeddu cariad y bardd at eiriau.
Mae'r sied wreiddiol ger cartref y bardd yn Nhalacharn, Sir Gâr, llu bu Thomas yn byw am bedair blynedd cyn ei farwolaeth yn 1953.
Fe gafodd sylw penodol ei roi at fanylion y sied, yn cynnwys hen luniau â'u corneli wedi cyrlio ar y waliau.
Yn ystod y daith, bydd y sied yn ymweld â Gŵyl y Gelli, Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol.