Profion Pisa gwirfoddol i ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, wedi cyhoeddi y bydd profion gwirfoddol yn seiliedig ar Pisa ar gael i ysgolion.
Yn ôl y Gweinidog, bydd "yn golygu bod ysgolion neu glystyrau o ysgolion yn gallu cymryd rhan mewn asesiadau tebyg i rai PISA er mwyn iddyn nhw gael eu meincnodi yn erbyn y cenhedloedd sy'n perfformio orau yn y byd."
"Er bod y profion hyn yn rhai gwirfoddol, mi hoffwn annog ysgolion i fanteisio arnyn nhw."
Dywedodd fod llwyddiant asesiadau Pisa'n hollbwysig i ddyfodol economi Cymru.
"Roedd Andreas Schleicher o'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn llygad ei le pan ddywedodd: 'Eich addysg heddiw yw eich economi yfory.'
"Alla i ddim pwysleisio digon pa mor hanfodol yw hi ein bod yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn dysgu sgiliau sy'n briodol ar gyfer y gweithle a bywyd."
Dylai gweithwyr, meddai, gael sgiliau yr oedd cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, sgiliau ar gyfer swyddi tymor hir, gwell gafael a dealltwriaeth o lythrennedd, rhifedd, datrys problemau a rhesymu - y sgiliau y mae PISA yn eu hasesu
"Mae'n bwysig bod ysgolion, rhieni ac athrawon ddeall goblygiadau ehangach Pisa.
"Nid sôn ydyn ni am gynnal profion jyst er mwyn cynnal profion; mae'r profion hyn yn ffordd inni weld yn union lle'r ydyn ni yn y byd o ran rhoi i'n pobl ifanc y sgiliau y mae eu hangen i gyfrannu at yr economi ac i ddod o hyd i waith yn y dyfodol."
Cymru'n waeth
Ym mis Rhagfyr 2013, cyhoeddwyd canlyniadau'r astudiaeth ryngwladol awgrymodd yn gryf fod disgyblion Cymru ar eu hôl hi o hyd o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.
Roedd canlyniadau profion Pisa'n dangos bod canlyniadau disgyblion 15 oed Cymru ar gyfartaledd yn waeth nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ym mathemateg, daeth Cymru'n 43ydd y tro hwn allan o 68 o wledydd, o'i gymharu â 40fed yn 2010.
Mae'n 41fed ym maes darllen, o'i gymharu â 38fed yn 2010.
Ac ym maes gwyddoniaeth, mae Cymru wedi disgyn o'r 30ain safle i'r 36ed y tro hwn.
Roedd dros hanner miliwn o ddisgyblion mewn 68 o wledydd wedi cymryd rhan yn y profion.
Shanghai-China oedd ar y brig yn y tri maes, gan symud ymhellach ar y blaen i weddill y byd.
Mae'r sgôr mathemateg yno yn cyfateb i dair blynedd ysgol yn uwch na'r cyfartaledd.
Roedd Singapore, Taiwan, De Corea a Japan ymhlith y gwledydd eraill i berfformio orau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2014