Cymdeithas yn croesawu mesur newydd

  • Cyhoeddwyd
Cymdeithas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gymdeithas wedi cynnal nifer o brotestiadau'n ddiweddar, yn galw ar y llywodraeth i weithredu dros yr iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhoi "croeso gofalus" i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnwys y Gymraeg fel rhan o'r Mesur Cynaliadwyedd.

Bydd y mesur - sydd yn cael ei alw'n Mesur Cenedlaethau'r Dyfodol ar hyn o bryd - yn gosod targedau cyfreithiol ar gyfer sefydliadau cyhoeddus, gyda'r nod o greu Cymru gynaliadwy erbyn 2050.

Mae'r targedau yma yn cynnwys sicrhau bod Cymru'n byw o fewn ei modd yn amgylcheddol a bod iechyd pobl yn well.

Heddiw, cyhoeddodd y llywodraeth mai un o'r targedau fydd sicrhau bod "pobl Cymru yn cymryd rhan yn ein diwylliant, sy'n perthyn i ni i gyd, gydag iaith Gymraeg sy'n ffynnu".

Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r newyddion hyn yn arwyddocaol, ac rwy'n falch bod ein pwysau yn dechrau dwyn ffrwyth, ond eto nid yw'n glir a fydd y Gymraeg yn rhan o'r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil neu beidio, sef yr hyn mae'r Gweinidog a Peter Davies wedi addo."

Ond mae Mr Schiavone'n awyddus i weld yr iaith yn cael ei gwneud yn ystyriaeth statudol o fewn y Mesur Cynllunio hefyd - nid dyna'r achos ar hyn o bryd.

Bydd cyfle i bobl leisio'u barn ynglŷn â gweledigaeth y llywodraeth ar gyfer y mesur dros y misoedd nesaf, wrth i'r llywodraeth gynnal nifer o ddigwyddiadau.

Wrth gyhoeddi'r weledigaeth, dywedodd y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, Jeff Cuthbert: "Ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru erbyn 2050 yw i fod y lle gorau i fyw, dysgu, gweithio a chynnal busnes.

"Rydym am i'n busnesau, ein gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a'r Llywodraeth fod wedi gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y Bil Cenedlaethau'r Dyfodol (fel y mae ei deitl ar hyn o bryd) arloesol arfaethedig.

"Byddwn wedi meddwl mwy am y tymor hir, wedi gweithio'n well gyda'n gilydd, wedi gweithredu'n gynnar ac wedi ymgynghori ac ymwneud â dinasyddion wrth fynd yn ein blaenau.

"Bydd hyn yn golygu bod pobl yng Nghymru yn iachach ac yn hapusach, bod mwy ohonynt yn ddwyieithog, bod ein heconomi'n ffynnu a bod ein hamgylchedd yn gadarn ac yn gydnerth.

"Bydd hyn yn helpu i wella lles Cymru a'i phobl dros y tymor hir drwy ddilyn llwybr o ddatblygu cynaliadwy."

Mae Mr Cuthbert yn gobeithio cyflwynor mesur erbyn yr haf a'i weld yn dod yn gyfraith yn ystod 2015.