Keogh: Awgrymu ymchwiliad i gyfraddau marwolaeth ysbytai

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Spl

Mae wedi dod i'r amlwg fod cyfarwyddwr meddygol y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr wedi dweud fis Tachwedd y llynedd y dylid ymchwilio i gyfraddau marwolaeth uchel mewn ysbytai yng Nghymru.

Mewn e-bost, a gafodd ei ryddhau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, dywedodd Syr Bruce Keogh fod y data ar gyfraddau marwolaeth yn chwe ysbyty yng Nghymru yn achos pryder ond nad oedd yn ddigonol "i ffurfio barn".

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud nad oes modd cymharu data Lloegr a Chymru, ac maen nhw wedi diystyrru cynnal ymchwiliad cenedlaethol.

Yn ei neges at Dr Chris Jones, cyfarwyddwr meddygol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, dywedodd Syr Bruce: "Alla' i ddim gwarantu cywirdeb y data yma ond mae'n bryderus.

"Gan gymryd eu bod yn adlewyrchu oedi posib mewn diagnosis a allent fod yn sail i rai o'r pryderon am farwolaethau, mae'n ymddangos yn synhwyrol i ymchwilio."

Mae data ar gyfraddau marwolaeth yn cael ei gasglu yn wahanol yng Nghymru a Lloegr, ac mae ystadegau ar gyfraddau ar gael i'r cyhoedd.

'Dim data digonol'

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynnal ymchwiliad cenedlaethol i bryderon am farwolaethau, er nifer o alwadau gan y Ceidwadwyr.

Mae'r e-bost yn dod ar adeg o densiwn rhwng llywodraethau Cymru a San Steffan dros berfformiad y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Mae'r GIG yng Nghymru yn agored ac yn dryloyw ac mae lefel uwch o archwiliad yma nac unman arall yn y DU.

"Mae cyfraddau marwolaeth yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi bob chwarter ac mae'r diweddaraf yn dangos gwelliant clir. Os oes problemau yn cael eu darganfod, rydyn ni'n gweithio'n galed i'w datrys a dydyn ni ddim yn oedi i ymchwilio.

"Mae awgrymu bod llywodraeth Cymru yn cuddio cyfraddau marwolaethau yn hollol hurt a heb unrhyw sail."

Dywedodd y llefarydd bod Syr Bruce wedi cyfaddef yn ei e-bost "nad oes data digonol i ddod i ganlyniad bod angen ymchwiliad mewn unrhyw ysbyty yng Nghymru".

"Hefyd, hyd yn oed pan mae Syr Bruce yn derbyn bod data yn bodoli, nid yw'n gallu gwarantu ei gywirdeb. Cafodd y pwyntiau gafodd eu codi gan Syr Bruce eu trafod mewn cyfarfod gyda Dr Chris Jones ar Ragfyr 10.

"Mae'r Awdurdod Ystadegau Cenedlaethol wedi dod i'r casgliad yn ddiweddar nad oes modd cymharu amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth Cymru a Lloegr.

"Mae'r data yn cael ei fesur yn wahanol. Os nad oedd Syr Bruce yn ymwybodol o hyn cyn iddo yrru'r e-bost, yn sicr cafodd wybod yn ystod y cyfarfod gyda Dr Chris Jones."

'Pryderon difrifol'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae'r pryderon sy'n cael eu codi yn yr e-bost hwn yn cadarnhau ein pryderon difrifol am safonau gofal yn y GIG.

"Fe ddylid ymateb i awgrym yr Athro Keogh i gynnal 'ymchwiliad' i gyfraddau marwolaeth yn syth yn hytrach na'i anwybyddu ymhellach.

"Mae'n drueni bod Carwyn Jones a Llafur Cymru wedi gwrthod y cyngor gafodd ei roi gan yr arbenigwr yma.

"Er mwyn cenhedloedd y dyfodol - mae Ceidwadwyr Cymru wedi galw am ymchwiliad tebyg i ymchwiliad Keogh i safonau gofal yn y GIG.

"Rydw i'n gobeithio y bydd hyn yn digwydd nawr."

Mewn datganiad, dywedodd y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr mai cyngor oedd e-bost Syr Bruce at Dr Chris Jones.

"Nid yw Syr Bruce wedi cynnig na chwaith wedi cael gofyn i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwiliad yng Nghymru," meddai llefarydd.

"Mae hynny, yn gywir, yn fater i'r GIG yng Nghymru."