'Does unman tebyg i Gymru': Ymgyrch dwristiaeth £4m

  • Cyhoeddwyd
Visitors walking the coastal pathFfynhonnell y llun, Crown copyright (2013) Visit Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwybr yr arfordir yn atyniad i nifer o ymwelwyr

Mae ymgyrch newydd wedi dechrau i annog ymwelwyr i ddod i Gymru. Neges yr hysbyseb newydd ydy 'Does unman tebyg i Gymru'. Y nod ydy argyhoeddi pobl nad gwyliau cyffredin fyddan nhw'n ei gael os ydyn nhw yn ymweld âr wlad.

Mae'r thema yma i weld ar draws yr ymgyrch werth £4 miliwn. Yr Undeb Ewropeaidd, Croeso Cymru a'i phartneriaid sydd wedi rhoi'r arian ac mae'r ymgyrch yn cynnwys hysbyseb deledu.

Ym mis Mehefin 2013 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth dwristiaeth newydd, 'Partneriaeth ar gyfer Twf'. Maen nhw'n dweud mai ei bwriad nhw ydy bod y sector yn tyfu 10% erbyn 2020.

Yn ôl y Gweinidog Economi, Edwina Hart, y gobaith ydy dangos y gorau o Gymru.

"Dyma'r cam cyntaf tuag at gyflawni'r hyn a osodwyd yn y strategaeth, ac mae'n bwriadu dangos bod Cymru'n gallu cynnig croeso cynnes, ansawdd ardderchog, gwerth gwych am arian a phrofiadau cofiadwy i'n hymwelwyr.

"Rydyn ni'n lwcus yng Nghymru o gael cymaint o amrywiaeth o weithgareddau, profiadau a chynnyrch i'w mwynhau a'u rhannu gyda'n hymwelwyr.

"Roedd rhywfaint o'n gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu nad yw pobl o reidrwydd yn gwybod am yr holl bethau gwych sydd i'w gweld a'u gwneud yma yng Nghymru, felly mae'r ymgyrch yn mynd i'r afael â hynny. "

Hysbyseb teledu

Y cyfarwyddwr Marc Evans sydd wedi bod yn gyfrifol am wneud yr hysbyseb ac mae ganddo brofiad yn y maes ar ôl gwneud hysbysebion ar gyfer y Co-op, Natwest a'r Llynges Frenhinol.

"Roedd y gwaith hwn yn ddelfrydol. Cefais fy magu yng Nghaerdydd, ond roeddwn yn treulio pob haf yn y gorllewin, ac rwy'n dwli ar y lle o hyd. Roedd yn hyfryd cael ffilmio ym Mae Ceredigion ac ymweld â rhannau eraill o'r wlad rwy'n llai cyfarwydd â nhw.

"Mae Cymru'n wlad fach anhygoel, ac yn gyfnewidiol o hyd o ran y tywydd a'r golau a hyd yn oed y ffordd y mae'r byd yn ei gweld.

"Rydych chi'n dod i'w hadnabod, ac yna'n cael eich synnu gan agwedd arall. Mae digon o bethau i ymfalchïo ynddyn nhw, ond mae'n dipyn o her dal ysbryd y wlad mewn hysbyseb!" meddai.

Cerys Matthews oedd yn gyfrifol am y gerddoriaeth sef fersiwn modern o'r alaw 'Mil Harddach Wyt'.

"Mae'n hwiangerdd hyfryd, "Mil harddach wyt na'r rhosyn gwyn, na'r rhosyn coch ar ael y bryn, na'r alarch balch yn nofio'r llyn, fy maban bach." Dyma un o'n trysorau ni yng Nghymru, gyda'n hetifeddiaeth werthfawr o gerddi a chaneuon, alawon hudol a phenillion perffaith."

Heblaw am yr hysbyseb, mae'r ymgyrch hefyd yn canolbwyntio ar gynnyrch newydd ac ar ddatblygu yr hyn sydd gan Gymru i gynnig yn barod i dwristiaid. Ymhlith y lleoliadau sydd yn ymddangos mae Castell Caernarfon, Traeth Abersoch, dolffiniaid ym Mae Ceredigion a Llys yr Esgob yn Nhŷddewi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol