Cynllun newydd i hybu twristiaeth
- Cyhoeddwyd
Bydd Gweinidog Busnes Cymru Edwina Hart yn lansio strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth yn ddiweddarach.
Nod y strategaeth yw cryfhau'r ddarpariaeth yn y diwydiant rhwng nawr a 2020.
Bwriad 'Partneriaeth ar gyfer Twf: Strategaeth Twristiaeth Llywodraeth Cymru', dolen allanol yw cynyddu'r arian y mae ymwelwyr yn ei wario yng Nghymru.
Yr amcangyfrif yw bod y diwydiant twristiaeth yn werth tua £1.8 biliwn y flwyddyn i economi Cymru, ac felly'n un o'r meysydd pwysicaf.
Mae'r ymchwil diweddaraf yn awgrymu y gallai hyn dyfu i £2.5 biliwn o ystyried effeithiau anuniongyrchol, sef 6% o holl economi Cymru.
Mae byrddau twristiaeth gwledydd eraill y DU eisoes wedi gosod targedau uchelgeisiol i gynyddu'r farchnad: Visit England yn gosod nod o 51+%, Visit Scotland targed o 18+% a'r Northern Ireland Tourist Board yn gosod nod herfeiddiol o 86+%.
Bydd gweinidog yn cyhoeddi newid pwyslais i'r diwydiant yng Nghymru fydd yn golygu canolbwyntio ar nifer o feysydd :-
Hyrwyddo'r 'Brand': Gwerthu rhagoriaeth trwy'r hyn y gall Cymru ei gynnig;
Datblygu cynnyrch: Sbarduno buddsoddiad mewn cynnyrch a digwyddiadau;
Datblygu pobl: Hyfforddi pobl fel y gallant ffynnu yn y sector twristiaeth;
Perfformiad proffidiol: Meithrin gallu'r diwydiant i ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i gyrraedd cwsmeriaid posibl a dylanwadu arnyn nhw;
Meithrin lleoedd: Datblygu cyrchfannau y bydd pobl am ymweld â nhw, a chreu cyfleoedd i gymunedau lleol roi profiadau cofiadwy i'r ymwelwyr.
'Cyfeiriad newydd'
Wrth baratoi i lansio'r strategaeth newydd, dywedodd Ms Hart:
"Mae'r amser wedi dod i ni roi cyfeiriad newydd i dwristiaeth yng Nghymru fel bod y sector yn tyfu yn y blynyddoedd nesaf ac yn gallu ymdopi â'r dylanwadau mewnol ac allanol sy'n effeithio arno.
"Gofynnais i Banel y Sector Twristiaeth ddiwygio'r strategaeth a'r cynllun gweithredu ac rwyf wedi derbyn eu hargymhellion.
"Os ydym am gynnal y strategaeth a'r cynllun gweithredu hwn mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol. Dyma gyhoeddi felly y bydd Panel y Sector Twristiaeth yn newid i fod yn Fwrdd Cynghori Twristiaeth Cymru.
"Bydd yn ymgysylltu fwy â'r diwydiant a'r rhanddeiliaid a bydd yn fwy gweladwy hefyd."
"Gyda'r strategaeth hon, ein nod yw cynyddu enillion y sector twristiaeth ar gyfer economi Cymru.
"Fodd bynnag, bydd ein llwyddiant yn hyn o beth yn dibynnu ar y farchnad a pha mor dda mae diwydiant twristiaeth Cymru'n gallu denu a chadw ymwelwyr mewn marchnad sy'n ddeinamig a chystadleuol.
"Dyna pam fod y ffigwr twf wedi cael ei osod ar darged o 10% ar gyfer y diwydiant twristiaeth hyd at 2020."
Dywedodd Dan Clayton Jones, Cadeirydd y Bwrdd Cynghori ar Dwristiaeth:
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio â'r Gweinidog, y diwydiant twristiaeth a Chroeso Cymru ar y strategaeth hon a'r cynllun gweithredu manwl er mwyn helpu sector twristiaeth Cymru i dyfu.
'Colli cyfleoedd'
Yn ymateb i gyhoeddiad strategaeth y llywodraeth dywedodd llefarydd treftadaeth y Ceidwadwyr: "Yn sicr mae yna syniadau da o fewn y strategaeth, rwyf wedi bod yn siarad am y lleoliadau ffilm a theledu am beth amser, ond mae hefyd yn colli cyfleoedd.
"Efallai mai'r broblem yw bod y gweinidog wedi dewis pwy oedd yn rhan o'r ymgynghoriad yn lle bod un llawn yn cael ei wneud.
"Mae gweithwyr yn y maes yn dal yn amheus ynglŷn â strategaeth lle mae'r targedau yn rhy isel .
"Maent yn amheus o ddylanwad tîm bach o fewn adran bwysig o'r llywodraeth - yn enwedig un sydd wedi colli, dros amser, yr arbenigedd roedd wedi ei etifeddu."
"Y ffordd i gynnal twf yn y cyfnod anodd hwn yw trwy weithio mewn partneriaeth a gwneud y gorau o'r adnoddau a'r wybodaeth sydd gennym; bydd hyn yn gwneud Cymru'n gyrchfan dwristiaeth well fyth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2013
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013