Radio Beca'n apelio am aelodau

  • Cyhoeddwyd
Logo Radio Beca

Mae menter gymunedol Radio Beca yn cynnal digwyddiadau yn Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion ar Ddydd Gŵyl Dewi i annog pobl i ymaelodi â'r orsaf er mwyn iddi allu dechrau darlledu ar FM ym mis Medi.

Mae modd i unigolion, clybiau, cymdeithasau a chwmnïau ddod yn aelodau o gwmni cydweithredol Radio Beca trwy dalu £100 yr un. Mae'r orsaf yn dweud y bydd pob aelod yn cael "llais cyfartal o fewn y drafodaeth a fydd yn siapo twf y gwasanaeth".

Cafodd Radio Beca drwydded gan OFCOM yn Ebrill 2012 i ddarlledu yn siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion.

Roedd yna ddisgwyliad y byddai'n dechrau darlledu o fewn dwy flynedd, ond mae'r orsaf wedi cael estyniad tan fis Medi 2014.

Dywedodd Geraint Davies, un o aelodau'r pwyllgor llywio, wrth Newyddion Ar-lein: "Gorau i gyd po fwyaf sy'n ymaelodi. Mae nifer o bobl wedi dweud wrthon ni eu bod nhw'n cefnogi'r hyn rydyn ni am ei wneud. Nawr ni'n taflu'r bêl nôl atyn nhw."

Aeth ymlaen i ddweud bod Radio Beca yn bwriadu cyflwyno cais am arian gan y Gronfa Loteri Fawr yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae Mr Davies hefyd yn dweud bod 'na "dipyn o ddiddordeb" gan gwmniau mewn hysbysebu ar yr orsaf, yn hytrach nag ar orsafoedd cyfrwng Saesneg, gan fod nifer ohonyn nhw am dargedu hysbysebion "at y math o bobl fyddai'n gwrando ar Radio Beca".

Mae Adran Ddiwylliant Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion i lacio'r cyfyngiadau ariannol ar orsafoedd radio cymunedol, dolen allanol sy'n cyfyngu ar eu gallu i greu incwm trwy werthu hysbysebion.

Yn ôl Mr Davies, fe fyddai Radio Beca'n croesawu hynny gan ddweud bod grwp trawsbleidiol o wleidyddion wedi bod i weld y gweinidog i drafod hynny ar ran yr orsaf ddiwedd 2013.

Yn ogystal â gwneud paratoadau ariannol ar gyfer lansio'r gwasanaeth FM ym mis Medi, mae'r orsaf wedi bod yn paratoi'n olygyddol gan ddarlledu ar y we am hanner awr bob nos o gystadleuaeth hanner awr adloniant Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

"Mae'r peth wedi bod yn llwyddiannus iawn - wedi rhoi cyfle i bobl ifanc i feithrin sgiliau... ry'n ni wedi bod yn rhoi hyfforddiant ar yr un pryd â darlledu."

Dywedodd Mr Davies mai'r bwriad oedd ehangu ar hyn dros y misoedd nesaf, a gwneud mwy o ddarlledu ar y we.

"'Mae'n brosiect uchelgeisiol. Eisoes ma' pobol yn creu podlediadau yn enw Radio Beca. Ond os y'n ni am glywed yr orsaf oddi ar fastiau Blaenplwyf, Preseli a Charmel, Cross Hands ma' angen i ni godi arian go iawn. Mae hynny'n gwbl bosib os bydd i ni ddefnyddio X-Ffactor ein diwylliant - ein gallu hanesyddol i gydweithio a chyd-greu.'

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol